Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyflwyno Telynores y Brenin: Mared Pugh-Evans, un o raddedigion CBCDC

Llongyfarchiadau mawr i Mared Pugh-Evans sydd newydd gael ei chyhoeddi’n Delynores y Brenin.

Llongyfarchiadau mawr i Mared Pugh-Evans sydd newydd gael ei chyhoeddi’n Delynores y Brenin

Llongyfarchiadau mawr i Mared Pugh-Evans sydd newydd gael ei chyhoeddi’n Delynores y Brenin.

Mared yw seithfed telynor swyddogol Ei Fawrhydi ers iddo ail-greu’r rôl yn 2000 fel Tywysog Cymru i feithrin doniau telynorion o Gymru ar offeryn cenedlaethol y wlad.

Mae Mared, a ymunodd â’r Coleg yn 2016, yn parhau â thraddodiad hir o delynorion brenhinol sydd â chysylltiadau â’r Coleg: mae’n olynu un arall a raddiodd o’r Coleg sef Alis Huws, a Hannah Stone a fu yn y rôl o 2011. Catrin Finch, Cymrawd ac un o raddedigion y Coleg a chyfarwyddwr artistig Cyngres Telynau’r Byd 2020, oedd y delynores gyntaf i ddal y swydd yn y traddodiad a ail-sefydlwyd.

Aeth Mared ymlaen i dderbyn ei gradd Meistr yn y Celfyddydau: Perfformio (Dosbarth Cyntaf) gan yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

‘Pan ofynnais am wersi telyn am y tro cyntaf yn chwech oed doeddwn i byth yn dychmygu y byddwn i un diwrnod yn Delynor y Brenin.

Mae derbyn y rôl hon yn anrhydedd ac yn gyfrifoldeb mawr. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r Delyn i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol ond hefyd i rannu fy nhreftadaeth a’r Gymraeg gyda phobl o bob rhan o’r DU a thu hwnt.

Mae fy ngwaith cymunedol presennol gyda Cerdd Byw Nawr, Music for Life Neuadd Wigmore a City of London Sinfonia, yn ganolog i’m cred bod cerddoriaeth i bawb, y gall pob unigolyn gymryd rhan mewn creu cerddoriaeth ac y gall cerddoriaeth helpu i godi, cefnogi a dod â llawenydd i fywyd pob un.

Fel cyd-sylfaenydd Music in Hospices rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun y pleser a’r llonyddwch y gall cerddoriaeth ei roi i bobl yn yr amgylchiadau anoddaf.’
Mared Pugh-EvansTelynores y Brenin

Tra roedd yn y Coleg enillodd Wobr Mansel Thomas CBCDC 2019, Gwobr CBCDC McGrenery am Gerddoriaeth Siambr 2019, a Gwobr fawreddog Syr Ian Stoutzker am yr offerynnwr mwyaf rhagorol yn 2020.

Mae Mared, sy’n rhugl yn y Gymraeg, wedi ennill nifer o wobrau am ei chwarae ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol ac wedi perfformio gyda cherddorfeydd megis y London Concert Orchestra yn Neuadd Frenhinol yr Ŵyl, ac roedd yn falch o ymddangos fel unawdydd am y tro cyntaf gyda’r Royal Philharmonic Concert Orchestra dan arweiniad y cyfansoddwr Patrick Hawes mewn cyngerdd a werthodd bob tocyn yn Eglwys Gadeiriol Norwich.

Mared yn y coleg.

Mae hi’n gerddor llawrydd sydd wedi’i lleoli yn Llundain ac yn gweithio gyda’r rhaglen Music for Life yn Neuadd Wigmore a Cerdd Byw Nawr yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr. Mae Mared hefyd yn gyd-sylfaenydd Music in Hospices a gyrhaeddodd y rhestr hir Gwobrau Entrepreneuriaeth Greadigol Deutsche Bank 2024 yn ddiweddar.

Nid yw perfformio i'r teulu brenhinol yn brofiad dieithr i Mared, gan iddi berfformio ar gyfer Taith Pen-blwydd Tywysog Cymru yn 70 oed, yn ogystal ag yn y Derbyniad Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer Cynrychiolwyr Rhyngwladol ar ran y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad a Phen-blwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 20 oed.

Bydd ei pherfformiad cyntaf yn ei swydd newydd fel Telynores y Brenin ar 11 Gorffennaf yn y Senedd, Caerdydd.

Storïau eraill