Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Syr Jonathan Pryce yn beirniadu gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe CBCDC sy’n dathlu hanfodion siarad mewn mydryddiaeth

Mae Gwobr flynyddol Shakespeare David Rowe-Beddoe Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu llefaru fel elfen hanfodol o hyfforddiant drama modern.

Mae Gwobr flynyddol Shakespeare David Rowe-Beddoe Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu llefaru fel elfen hanfodol o hyfforddiant drama modern. 

Dyfarnwyd gwobr o £5,000 eleni i’r actor ail flwyddyn Rachel Doherty gan y prif feirniad a Chymrawd CBCDC Syr Jonathan Pryce. 

Roedd y gynulleidfa wadd yn cynnwys y Fonesig Rowe-Beddoe a theulu, ffrindiau, graddedigion a gwesteion arbennig o fyd y theatr yn Theatr Royal Court Llundain. 

Dewiswyd y chwech ar gyfer y rownd derfynol gan Syr Jonathan Pryce pan ddaeth i Gaerdydd i weithio gyda holl fyfyrwyr actio yr ail flwyddyn yn nhymor yr hydref. .

Llongyfarchiadau i Rachel Doherty ac i’r rheini a gyrhaeddodd y rownd derfynol, Georgia Booker, Alex Dunne, Daniel Hickey, Leonardo Tataei a Lucian Zanes.

Beirniaid a chystadleuwyr rownd derfynol Gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe 2025
‘Roedd ennill y wobr hon yn gymaint o anrhydedd a gallaf ddweud a llaw ar fy nghalon ei bod wedi newid cwrs fy nhaith actio.

Pe byddech wedi dweud wrthyf ddwy flynedd yn ôl y byddwn yn perfformio Shakespeare ar lwyfan y Royal Court yn Llundain, byddwn wedi chwerthin!

Mae Shakespeare yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon. Ond doeddwn i ddim bob amser yn ei fwynhau, ac mewn gwirionedd doeddwn i ddim yn ei hoffi o gwbl pan gefais fy nghyflwyno iddo gyntaf.

Ond ers ei astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae wedi dod yn rhywbeth rydw i wastad eisiau ei wneud. Rwy’n credu bod Shakespeare yn crynhoi’r profiad dynol yn berffaith, y drwg a’r da a phopeth rhyngddynt.

Efallai bod ei ddramâu yn digwydd mewn cyd-destun sy’n wahanol iawn i’n un ni heddiw, ond yr un yw’r profiad dynol; torcalon, llawenydd, cenfigen, casineb, gorfoledd, cariad…mae’n rhywbeth bythol yn fy marn i.
Rydw i wedi darganfod angerdd newydd ac mae fy nyled yn fawr i’m holl athrawon a’r Coleg.’
Rachel DohertyEnillydd Gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe 2025

Shakespeare: Sylfaen mewn actio

‘Mae dysgu’r dechneg y tu ôl i’r ysgrifennu wedi bod yn amhrisiadwy’ meddai, ‘a gallaf ei chymhwyso i bob darn o destun nawr, waeth beth yw’r arddull. 

Gall cymhlethdod yr ysgrifennu ei wneud yn anodd ei ddeall, felly rydw i wedi dysgu bod defnyddio’r dechneg ynghyd â chysylltiad â’r cymeriad yn eich galluogi i gyfathrebu â’r gynulleidfa, sy’n hanfodol i actor.

Mae’n teimlo’n fel y sylfaen mewn actio, a dyna pam rwy’n meddwl ei fod yn gymaint o fudd gallu hyfforddi ynddo.’


‘Fe wnaeth bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol gyflawni’r pethau allweddol yr oedd y beirniaid yn chwilio amdanynt - eglurder yn eu defnydd o’r iaith a’r mesur, a chymeriad, gan ddangos safbwynt penodol. Canmolodd y beirniaid y myfyrwyr am eu haelioni wrth rannu’r gwagle â’i gilydd, a’r deallusrwydd, y ffraethineb a’r angerdd a gyflwynodd pawb i’w dewis o areithiau.’
Jonathan MunbyCyfarwyddwr Perfformio Drama

Yn ymuno â Syr Jonathan ar banel y beirniaid yr oedd Cymrawd CBCDC Rakie Ayola, Charlotte Sutton Pennaeth Castio yn y Royal Shakespeare Company, Cyfarwyddwr Perfformio Drama CBCDC, Jonathan Munby, a’r Pennaeth Llais, Alice White. 

Gan arddangos yr hyfforddiant cerddoriaeth a drama yn y Coleg, cafodd gwesteion eu diddanu gan enillydd Gwobr Shakespeare y llynedd Meg Basham, myfyrwyr cerddoriaeth y Coleg yn perfformio fel Pedwarawd Vita, a’r gitarydd graddedig Luke Bartlett. Daeth graddedigion actio diweddar yn ôl hefyd i gefnogi eu cyd-actorion CBCDC. 

Roedd y Fonesig Rowe-Beddoe a’i theulu wrth eu bodd yn dathlu’r wobr yn enw’r Arglwydd Rowe-Beddoe, gyda chriw mor hapus o ffrindiau agos a chefnogwyr. 

Storïau eraill