Trawsnewid mannau cyffredin yn lleoliadau eithriadol yw gwaith Alex Moore, Rheolwr Lleoliadau Doctor Who, a raddiodd mewn Rheoli Llwyfan
Mae teithio i bob math o fydoedd a chyfnodau amser yn gofyn am gyfuniad arbennig o rinweddau a sgiliau. Er nad yw’n teithio drwy’r bydoedd hyn ei hun, mae Alex Moore, un o raddedigion Rheoli Llwyfan CBCDC, yn crwydro ledled Cymru yn chwilio am y lleoliadau delfrydol i ffilmio Doctor Who fel Rheolwr Lleoliadau, gan ddod o hyd i leoedd sy’n gallu bod yn alaethau pell, lleoliadau hanesyddol a realiti amgen.
Ond sut y daeth i weithio ar un o’r sioeau teledu mwyaf llwyddiannus erioed?
Cymru: cartref Doctor Who
Gan weithio cefn llwyfan mewn cynyrchiadau yn fy ysgol, roeddwn i’n gwybod bod fy mryd ar weithio ym maes rheoli llwyfan.
‘Roeddwn eisiau dod o hyd i gwrs a oedd yn caniatáu i mi archwilio gwahanol elfennau rheoli llwyfan a theatr dechnegol, ac nid yn arbenigo mewn un elfen yn unig. Wrth ymchwilio i gyrsiau ledled y DU daeth yn amlwg y byddai Caerdydd yn cynnig hyn a mwy i mi.
Ond doeddwn i ddim yn gwybod hyd a lled y cyfleoedd oedd ar gael nes i mi ddechrau astudio. Mae pobl fel petaent yn meddwl mai Llundain yw’r lle i fod, ond mae cymaint yn digwydd yng Nghymru hefyd’Alex MooreGraddedigion Rheoli Llwyfan
Rheoli Llwyfan - bod fel gweithiwr proffesiynol o’r diwrnod cyntaf
Roedd plymio’n syth i’r cwrs yn fy ngalluogi i ddilyn ac adeiladu ar fy nghryfderau a’m diddordebau. Fe wnes fanteisio ar bob cyfle a gefais.
Roedd gweithio yn y diwydiant theatr wastad yn rhywbeth roeddwn i’n ei fwynhau, ond roeddwn hefyd am archwilio byd ffilm a theledu. Rydw i wrth fy modd yn yr awyr agored, yn sgwrsio â phobl ac yn gwneud cysylltiadau, ac roeddwn yn awyddus i weld a oedd swydd a fyddai’n cyfuno’r holl elfennau hyn.
Mae’r cwrs Rheoli Llwyfan yn eich trin fel gweithwyr proffesiynol o’r diwrnod cyntaf. Rydych yn dysgu yn y swydd ac mae ei hyblygrwydd yn golygu y gallwch arbenigo ac archwilio’r meysydd sydd o ddiddordeb i chi.
Roedd hyn yn arbennig o wir pan ddefnyddiwyd cyntedd y Coleg i ffilmio un o benodau arbennig ‘Doctor Who’:
Roeddwn i’n siarad ag aelod o dîm Gweithrediadau Technegol y Coleg a oedd yn gwybod bod gen i ddiddordeb yn y byd teledu, a llwyddodd i drefnu i mi gysgodi’r tîm lleoliadau am ychydig ddyddiau yn ystod y gwaith ffilmio.
Camu i mewn i’r byd gwaith: His Dark Materials
Fel rhan o fy nghyfnod lleoliad gwaith yn y diwydiant tra fy mod yn CBCDC bûm yn gweithio gyda Gareth Skelding, sydd wedi bod yn chwilio am leoliadau trawiadol ar gyfer y dramâu mwyaf sydd wedi cael eu ffilmio yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf.
Fe wnaeth gweithio ochr yn ochr â Gareth agor fy llygaid i fyd rheoli lleoliadau a sut y gallai fy astudiaethau fel rheolwr llwyfan gael eu trosglwyddo ar draws amrywiaeth o rolau.
Gweithiais fel Gweithiwr Lleoliadau dan Hyfforddiant ar y gyfres gyntaf o ‘His Dark Materials’ ac roedd fy niwrnod cyntaf o ffilmio ym Mharc Bute, union gyferbyn â’r Coleg. Roedd wir yn teimlo fel cylch cyflawn.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roeddwn yn ôl yn Bad Wolf a’r cyfle i weithio fel rheolwr lleoliadau ar gyfer ‘Doctor Who’, gan ddechrau gyda rhaglenni arbennig David Tennant a Catherine Tate, ac ymlaen i gyfnod Ncuti Gatwa. Nawr rwy’n rhannu fy amser rhwng Essex a’r Barri, wel a dweud y gwir dim ond De Cymru, yn gweithio ar ‘Gavin and Stacey’ sydd wedi bod yn rhywbeth hollol wahanol i fod yn rhan ohono.
Sgowtio am leoliadau: Chwilio am y mannau perffaith
Felly, sut mae dod o hyd i’r lleoliad delfrydol? I ni mae’r daith yn cychwyn yr eiliad y cewch y sgript.
Ar rywbeth fel ‘Doctor Who’ rydym fel arfer yn cael sgriptiau penodau tua chwe wythnos ymlaen llaw. Rydym yn darllen drwy’r stori er mwyn dod o hyd i leoliad i gyd-fynd â’r weledigaeth, ac yn gweithio gydag adran gynhyrchu i greu rhestr o amryw leoliadau a allai o bosibl weithio.
Gallai fod yn gastell hanesyddol, yn stryd breswyl leol a/neu gallwn fod yn rhywle yng nghanol ardal wledig ac anghysbell. Ar gyfer pob lleoliad mae’n rhaid i ni ystyried nid yn unig gweledigaeth greadigol y bennod ond hefyd gofynion ymarferol megis hygyrchedd, diogelwch ac argaeledd ar gyfer dyddiadau ffilmio.
Meistroli’r grefft o gynllunio llyfn: y logisteg
Y tu ôl i bob golygfa sy’n llifo’n llyfn ar y sgrin mae gwaith cynllunio a chydlynu manwl. Rôl ganolog yn hyn o beth yw trefnu logisteg ffilmio ar leoliad: trefnu cludiant ar gyfer cast a chriw a sicrhau bod yr holl offer a chyfleusterau angenrheidiol yn eu lle, gan ragweld unrhyw heriau posibl a allai godi.
Mae hefyd yn hollbwysig nad yw gweithgareddau ffilmio yn aflonyddu nac yn amharchus. Er enghraifft, ar gyfer y bennod Nadolig arbennig ddiweddaraf (The Church on Ruby Road), fe wnaethom ffilmio sawl golygfa y tu allan i eglwys. Fy nghyfrifoldeb i oedd siarad ag offeiriad yr eglwys, a hefyd Yr Eglwys yng Nghymru, i wneud yn siŵr eu bod yn hapus â’n gweledigaeth ar gyfer y bennod.
Cydweithio, creadigrwydd a meithrin perthynas
Mae cydweithio ar draws y timau cynhyrchu, a gyda chymunedau lleol, yn bwysig er mwyn i’r gwaith ffilmio redeg yn esmwyth. Rhaid i’r rheolwr lleoliadau weithio allan sut i ddefnyddio’r lle ar gyfer ffilmio a gallu datrys problemau yn y fan a’r lle, yn ogystal â thrafod gyda pherchnogion eiddo ac awdurdodau i gael caniatâd ar gyfer ffilmio.
Un o fy hoff agweddau o’r swydd yw meithrin perthynas â gwahanol bobl a’r sgyrsiau gwych a gewch gyda nhw. Wrth ffilmio ‘The Star Beast’ roedden ni’n defnyddio tŷ oedd yn perthyn i gwpwl, a fy ngwaith i oedd treulio amser gyda nhw, egluro’r broses ffilmio, pa ystafelloedd fyddem yn eu defnyddio a delio ag unrhyw bryderon oedd ganddynt.
Concro un lleoliad, chwilio am y nesaf: Mae’r daith yn parhau
Unwaith y bydd y ffilmio wedi gorffen, rydym yn symud yn syth i’r lleoliad nesaf.
Pan fyddaf yn gwylio’r broses ffilmio ar leoliad mae fy meddwl eisoes dri cham ymlaen yn meddwl am y lleoliad nesaf. Ni yw’r datryswyr problemau ac rwy’n mwynhau hynny’n fawr. Dyna un o’r pethau allweddol rydw i wedi’i ddysgu o astudio rheoli llwyfan yn CBCDC. Roeddem fel gweithwyr proffesiynol ac os nad oeddem yn gwybod rhywbeth, roeddem yn dod o hyd i’r person a oedd yn gwybod.
O’r disgybl i’r tiwtor: Buddsoddi mewn talent newydd
Gall fod yn fyd bach yn y diwydiant hwn ac mae gwybod y gallwch ddibynnu ar bobl i ddod â’r lefel uchaf o safon i’w gwaith, yn ogystal â bod yn barod yn feddyliol, mor bwysig.
‘Mae’n hysbys drwy’r diwydiant bod unrhyw un sydd wedi astudio yn CBCDC yn mynd i fod yn iawn ar gyfer y swydd oherwydd bu’r rhan fwyaf ohonom yn astudio yno felly rydym yn gwybod am yr hyfforddiant, rydym yn gwybod beth yw lefel eu profiad. Roedd gennym ni fyfyrwraig rheoli llwyfan o’r Coleg ar leoliad gwaith gyda ni ar y gyfres ddiwethaf o Doctor Who, ac fe wnaeth hi ffitio i mewn i’n tîm ar unwaith.’Alex MooreGraddedigion Rheoli Llwyfan
‘Stori yw pob un ohonom yn y diwedd, gwnewch hi’n un dda’
Mae hanes ein cymuned Coleg yn gweithio gyda Doctor Who yn un hir iawn. Un aelod o’r gymuned honno yw’r cynllunydd gwisgoedd gwobrwyedig Ray Holman, a raddiodd o’r Coleg ac sy’n Gymrawd CBCDC, sy’n gweithio’n rheolaidd â myfyrwyr Cynllunio a’r Coleg, gan roi o’i amser a rhannu ei wybodaeth am ei waith ar Doctor Who yn gweithio gyda gwisgoedd bodau dynol ac arallfydol, gan gynnwys y Doctor ei hun, gan mai ef gynlluniodd y gwisgoedd eiconig ar gyfer Matt Smith, Peter Capaldi a Jodie Whittaker.
Trwy ddod â bydoedd rhyfeddol y sioe yn fyw mewn ffyrdd cyfareddol mae’r rheolwr lleoliadau yn sicrhau bod swyn y gyfres yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’n sgriniau teledu. Yng ngeiriau’r Doctor ei hun, ‘Stori yw pob un ohonom yn y diwedd, gwnewch hi’n un dda’.
Felly, y tro nesaf y cewch eich cludo i gyfnod amser neu le cwbl wahanol wrth wylio Doctor Who, cofiwch am un o’r nifer o arwyr tawel yn y cefndir.