Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyfansoddi ar gyfer y Coleg: Natalie Roe ar greu’r gerddoriaeth ar gyfer ffilm brand CBCDC

Sut ydych chi’n crynhoi hanfod y Coleg trwy gerddoriaeth?

Croeso, ffilm brand newydd CBCDC...

Mae ffilm brand CBCDC yn arddangos ehangder y prosiectau arloesol, amrywiol a hynod ddiddorol sy’n digwydd yn gyson yn ein hadeilad. Mae’n amlygu’r ysbryd rhyngddisgyblaethol a chydweithredol sy’n dod â myfyrwyr a staff ynghyd drwy’r broses o greu.

Sut ydych chi’n crynhoi hanfod y Coleg trwy gerddoriaeth?

Natalie Roe, a raddiodd gyda gradd mewn Cyfansoddi, yw Llywydd Undeb y Myfyrwyr am yr ail flwyddyn yn olynol ac mae wedi dod i adnabod y Coleg yn eithaf da dros y chwe blynedd y mae hi wedi bod yma. Roedd hynny, a’i sgiliau cyfansoddi, yn ei gwneud yn berson amlwg i gyfansoddi’r thema ar gyfer ffilm brand newydd y Coleg.

‘Pan oeddwn i’n meddwl sut i fynd i’r afael â’r gwaith, roeddwn i eisiau ceisio rhoi ymdeimlad o’r awyrgylch unigryw sydd yma yn CBCDC. Yr hyn sy’n ei wneud mor arbennig yw’r positifrwydd, yr ymdeimlad o gymuned a’r amgylchedd ysbrydoledig y mae myfyrwyr yn ei deimlo yma.

Yr her oedd trosi hynny i gyd yn sain – cyfleu’r gwahanol elfennau hynny, ond hefyd dangos taith y myfyrwyr yn datblygu fel artistiaid trwy gydol eu cyfnod yma.’
Natalie RoeLlywydd UM

Cydweithio creadigol

Un ffactor allweddol yn y broses greadigol oedd cydweithio â myfyrwyr i helpu i greu’r synau gwahanol. Er enghraifft, recordiodd y delynores welwch chi yn y ffilm, Tilly Whates, y delyn i mi ac fe wnes i wedyn olygu a defnyddio dulliau electronig i wneud y seiniau trawsnewid. 

Y llais ar y trac sain sy’n dweud ‘The house is now open, please do not cross the stage’ yw Will Hughes, myfyriwr Rheoli Llwyfan – gwiriais gydag ef ynglŷn â’r iaith gywir i’w defnyddio ar gyfer hynny – ac yna fe wnes ei olygu i roi’r argraff o’i glywed trwy glustffonau o safbwynt rheolwr llwyfan. 

Doeddwn i ddim eisiau dibynnu ar seiniau acwstig yn unig, gan fod y Coleg yn cynrychioli cymaint mwy na hynny. I adlewyrchu ei amrywiaeth fe wnes gynnwys seiniau cyfoes gan ddefnyddio syntheseisydd. Gan mai cerddoriaeth electronig yw fy mhrif ddiddordeb, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid iddo fod yn rhan o’r cyfansoddiad.

Gweithiais gyda Phennaeth Cyfansoddi CBCDC John Hardy – a oedd yn brofiad hynod ysbrydoledig yn enwedig gyda’i gefndir helaeth a’i waith a llwyddiannus ym maes cerddoriaeth ffilm. Mae John a’r adran gyfansoddi gyfan wastad wedi bod yn fentoriaid a thiwtoriaid mor gefnogol a brwdfrydig i’r myfyrwyr cyfansoddi, a byddaf yn ddiolchgar am hyn am byth. 

Diolch yn fawr iawn i’r Coleg a’r tîm a weithiodd ar y fideo am roi’r cyfle i mi gyfansoddi ar gyfer y ffilm hon. Roedd yn brosiect llawen i fod yn rhan ohono!

‘Sŵn y Ddinas’: cyfansoddi ar gyfer Caerdydd

Ers gweithio ar y ffilm brand, cyhoeddwyd y bydd Natalie yn un o bedwar cyfansoddwr sydd wedi derbyn comisiwn ‘Sŵn y Ddinas’ gan Gyngor Caerdydd fel rhan o’i ŵyl gerddoriaeth newydd fawr, Gŵyl Gerdd Dinas Caerdydd yr hydref hwn. 

Roedd y comisiwn yn cynnwys cyfnod preswyl pedair wythnos yn cefnogi’r artistiaid i fod yn arbrofol a chreadigol gyda’u crefft. 

Diolch yn fawr – neges gan y tîm Marchnata

Roedd y ffilm brand yn brosiect Coleg cyfan gwirioneddol oherwydd roedd yn ymwneud â chydweithio. Ni fyddem wedi gallu cyflawni’r gwaith heb gymorth cymaint o fyfyrwyr a staff, ac fe ddaeth â ni at ein gilydd i ddathlu cymuned greadigol CBCDC. 

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i’w rhyddhau, ac yn gobeithio y bydd cymaint ohonoch chi’n rhannu ein ffilm â phosib. 

Storïau eraill