Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gala Opera: Gweithio gyda’r WNO a’r Maestro Carlo Rizzi

Bu myfyrwyr presennol a chynfyfyrwyr Ysgol Opera David Seligman yn gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru a’r Maestro Carlo Rizzi i gyflwyno Gala Opera er mwyn dathlu pen-blwydd y Coleg yn 70 oed.

Bu’r myfyriwr Opera Grace Curtis yn sgwrsio gyda ni am ei phrofiad o’r Gala, o’r adeg y derbyniodd y gerddoriaeth am y tro cyntaf i berfformio ar y noson.

'Y gala yw uchafbwynt tymor yr hydref i nifer ohonom. Nid yn unig y mae’n achlysur gwych i’w wylio, mae hefyd yn bleser pur i gymryd rhan ynddo.
Ar ôl derbyn y gerddoriaeth chwe wythnos yn ôl dechreuom ar y gwaith paratoi, gan weithio ar y testun Eidaleg a thestunau Almaeneg gyda’n tiwtoriaid iaith.'

Roedd John Fisher, Cyfarwyddwr Artistig yr Ysgol Opera, wrth law i oruchwylio pob elfen o’r gwaith. Treuliodd oriau gyda ni, yn cynnig profiad gwerthfawr ac yn ein helpu i ganfod y dewisiadau artistig y gallem ac y byddem yn eu gwneud.

Cawsom hefyd wythnos o hyfforddiant gan y cyfarwyddwr cerdd a’r arweinydd Wyn Davies a dreuliodd amser yn mireinio ein gwaith a sicrhau ein bod yn gyfforddus heb gopi.

Yn ystod yr wythnos olaf buom y gweithio gyda’r cyfarwyddwr Alma Sheehan, a wnaeth ein helpu i wneud y cam olaf i feddiannu ein cymeriadau cyn i ni gwrdd â Carlo Rizzi a oedd, gobeithio, yn fodlon â’r man yr oeddem ni gyd wedi’i gyrraedd.

Wedi ychydig o hyfforddiant manwl iawn gyda Carlo dechreuom ar y rihyrsals cerddorfaol gyda Cherddorfa’r WNO, oedd yn brofiad sy’n anodd ei grynhoi mewn geiriau.

'Mae perfformio gyda cherddorfa ac arweinydd o’r fath safon yn gwneud i ganwr ifanc deimlo mor ddiogel a chyfforddus.
Er y byddech efallai’n teimlo y byddem yn teimlo arswyd, roedd pawb ohonynt mor garedig, ac roeddem wedi ein paratoi mor dda fel ei fod yn brofiad mwyaf rhyddhaol sef ymddiried bod y gwaith wedi’i wneud a bod yr ensemble cyfan yn rhan annatod o’r gerddoriaeth.

Ar ôl cael profiadau rhyfeddol ar y cwrs opera dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd y gala yn teimlo fel uchafbwynt gwirioneddol.
Rwy’n teimlo bod rhai adegau mewn bywyd pan eich bod yn sylweddoli pa mor rhyfeddol o ffodus ydych eich bod yn lle rydych, ac roedd gwenu ar Carlo a’r gerddorfa, ar ôl agor y gala opera yn sicr yn un ohonynt.'
Grace CurtisMyfyriwr Opera

Roedd y rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth o La Boheme a Suor Angelica gan Puccini, a Cosi Fan Tutte gan Mozart.

Maestro Rizzi yn arwain ar lwyfan Dora Stoutzker
'Mae’n rhaglen uchelgeisiol iawn gyda golygfeydd operatig mawr sy’n cynnwys ystod enfawr o emosiwn dynol: bradychu cariad, maddeuant, cywilydd, hapusrwydd, y cyfan wedi’u dyrchafu i’r lefel nesaf gyda pheth o’r gerddoriaeth orau a grëwyd erioed.

Yn ogystal â bod yn noson hyfryd o gerddoriaeth i’r gynulleidfa, roedd yn noson bleserus i mi’n bersonol: i arwain cerddorfa wych Opera Cenedlaethol Cymru, gweithio unwaith yn rhagor gyda’r cantorion ifanc dawnus hyn sy’n fyfyrwyr a hefyd yn raddedigion diweddar Ysgol Opera David Seligman.'
Carlo RizziMaestro

Yn canu ochr yn ochr â myfyrwyr o’r cwrs MA mewn Perfformio Opera y mae’r graddedigion diweddar André Henriques, Rachel Goode, Rhodri Prys Jones a hefyd Christine Byrne, a raddiodd ym mis Mehefin ac a fydd yn perfformio am y tro cyntaf gyda’r WNO yn Les Vêpres Siciliennes Verdi gyda Carlo Rizzi yn y gwanwyn.

Enillodd Rachel a Rhodri Wobr Ian Stoutzker o fri y Coleg pan oeddent yn astudio yma.

Storïau eraill