Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Perfformio Opera

  • Dyfarniad:

    MMus Perfformio Opera

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    852F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Gyda’n cwrs dan arweiniad y diwydiant, sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol â chyfleoedd perfformio amrywiol, byddwch yn gwybod sut mae bodloni gofynion cwmnïau opera proffesiynol y dyddiau hyn.

Trosolwg o’r cwrs

Fel rhan o’r rhaglen MMus hon, sy’n para 2 flynedd ac a grëwyd mewn cysylltiad agos ag Opera Cenedlaethol Cymru, bydd perfformio operatig yn rhan sylfaenol o’ch profiad. 

Fel aelod o Ysgol Opera David Seligman, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ensemble a chyflwyniadau golygfeydd opera, ond bydd y rhan fwyaf o’ch astudiaeth yn canolbwyntio ar berfformio’n gyhoeddus mewn opera sydd wedi’i llwyfannu’n llawn, sy’n cynnwys cyfnodau o baratoi ac ymarfer dwys.  

Diolch i’n cysylltiadau cryf â’r diwydiant, byddwch yn cael eich trochi yn amgylchedd cwmni operatig proffesiynol o ddechrau eich cwrs, gan weithio fel aelod o Ysgol Opera David Seligman. 

Drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu mewn lleoliad conservatoire ysbrydoledig, byddwch yn meistroli’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant opera heddiw. 

Pam astudio Opera yn y Coleg Brenhinol?

  • Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfuniad o ddulliau addysgu sy’n cyfoethogi eich sgiliau arbenigol, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy hefyd – gwersi un i un, hyfforddiant, gwaith grŵp, tiwtorialau, darlithoedd, seminarau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol, a chyfnodau cynhyrchu opera.
  • Ni fydd eich rhaglen astudio yn glynu wrth unrhyw un fethodoleg neu athroniaeth – yn hytrach, mae’n dod â llawer o ddylanwadau a dulliau at eich gwaith er mwyn i chi allu magu hyder wrth nodi a deall eich gweledigaeth artistig eich hun.
  • Byddwch yn dysgu arferion gweithio operatig proffesiynol gyda chyfarwyddwyr a répétiteurs proffesiynol, gan roi cipolwg i chi ar sut mae’r diwydiant yn gweithio a’ch helpu i gael ymwybyddiaeth o’r amgylchedd operatig.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr lleisiol adnabyddus a hyfforddwyr nodedig. Maent yn eich mentora ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi, yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf.
  • Mae ein partneriaethau â’r diwydiant opera yn cynnig cyfleoedd i chi gydweithio’n uniongyrchol ag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys gala opera flynyddol y Coleg Brenhinol, lle bydd unawdwyr o Ysgol Opera David Seligman yn cael cwmni cerddorfa’r Coleg, cael eich hyfforddi a’ch mentora gan staff cerddoriaeth y Coleg yn ogystal â’r cyfle i arsylwi a chysgodi rhai o ymarferion stiwdio’r Coleg. Bydd hyn yn eich helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau, a byddwch hefyd yn gallu datblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae'r diwydiant yn gweithredu.
  • Byddwch yn cydbwyso eich hyfforddiant unigol â dosbarthiadau cwbl integredig mewn crefftau llwyfan, sy’n cynnwys symud a dawnsio, a hyfforddiant mewn sgiliau dramatig a dehongli. Byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau yn y prif ieithoedd operatig – Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg.
  • Mae perfformio’n hanfodol i’ch hyfforddiant, a byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ensemble, perfformiadau amrywiol a chyflwyniadau golygfeydd opera – gan gynnwys gwaith Baróc a gwaith cyfoes yn ogystal â repertoire safonol – i fireinio’r sgiliau hyn.
  • Uchafbwynt eich astudiaeth yw astudio’n fanwl a pharatoi ar gyfer rôl operatig gyflawn i’w chyflwyno mewn clyweliad a sesiwn waith sy’n cyfateb i rôl broffesiynol. Pennaeth cerddoriaeth o un o brif gwmnïau opera’r DU sy’n asesu hyn fel arfer.
  • Bydd y rhaglen astudio o’ch dewis yn eich helpu i feithrin y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniadau effeithiol ynghylch repertoire addas a dewis rôl ar gyfer clyweliadau proffesiynol.
  • Byddwch yn cael dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar arferion proffesiynol a phrotocol opera, gan eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o arferion gweithio cydweithredol.
  • Byddwch yn dysgu gan artistiaid rhyngwladol enwog sy’n ymweld â’r Coleg yn flynyddol i berfformio a chynnal dosbarthiadau meistr, gan gynnig gwybodaeth amhrisiadwy am y diwydiant a gwybodaeth artistig i ddatblygu eich sgiliau.
  • Byddwch yn cael seminarau a fydd yn eich dysgu sut i sefydlu eich hun fel artist annibynnol. Bydd y sesiynau hyn yn trafod rhwydweithio, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid, cyfryngau cymdeithasol – yr holl feysydd y mae angen i chi wybod amdanynt i ddatblygu a chynnal gyrfa bortffolio lwyddiannus a gwaith operatig.
'Dysgais bopeth o'r rhaglen yn y Coleg, gan ddechrau o'r gwersi iaith, symud, dosbarthiadau drama a gwersi canu gyda Donald [Maxwell].
O fewn dwy flynedd dysgais yr holl offer sydd eu hangen arnaf i fod yn barod i fynd am yrfa yn y diwydiant.'
Blaise MalibaGraddedig a Canwr Opera Proffesiynol

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf