Neidio i’r prif gynnwys

Celfyddydau Cynhyrchu

Rydym yn cynnig cyfleoedd i archwilio theatr dechnegol, rheoli llwyfan a dylunio ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed. 

Mae ein cyrsiau a’n dosbarthiadau meistr yn rhoi cyfle i bobl ifanc creadigol gael mewnwelediad gwirioneddol i hyfforddiant ysgol ddrama a’r diwydiannau ‘cefn llwyfan’ ehangach. Cyflwynir dosbarthiadau arbenigol gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, mewn sgiliau sy’n cynnwys goleuo, sain, rheoli llwyfan, gwneud propiau, gwisgoedd a chynllunio set.

Cefnogir YPPA gan Bad Wolf.

Gwanwyn 2025

Gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, byddwch yn dysgu sgiliau a thechnegau penodol. Nid cwrs yw’r Dosbarthiadau Meistr, a bydd pob un yn un sesiwn ar ei phen ei hun, felly gallwch archebu cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch yn ôl eich diddordeb.

Sut i wneud cais

Gallwch fynychu cymaint neu gyn lleied o’r sesiynau ag y dymunwch, yn dibynnu ar eich diddordebau.

Os ydych yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim rydych yn gymwys am ddisgownt ar brisiau ein holl weithgareddau, rhowch wybod i ni os yw hyn yn berthnasol i chi cyn eich bod yn archebu drwy e-bostio yppa@rwcmd.ac.uk.

Mae archebion yn cau ddydd Mercher 16 Ebrill

Archebu are agor yn fuan


'Fe wnes i fwynhau’r ysgol haf yn fawr iawn a dysgais gymaint am yrfaoedd cefn llwyfan yn y theatr. Bydd y wybodaeth rydw i wedi ei chael yn fuddiol iawn yn y dyfodol. Roedd yr holl diwtoriaid yn gyfeillgar iawn ac yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau oedd gennym. Roedd y sesiynau’n rhai hwyliog a rhyngweithiol'
Cyfranogwr yn yr Ysgol Haf

Ffioedd a chymorth ariannol

Mae Drama Ieuenctid CBCDC wedi ymrwymo i roi’r cyfle i bob person ifanc 11-18 oed sydd â diddordeb brwd mewn theatr i elwa gan yr hyfforddiant drama arbenigol a ddarperir gan CBCDC, waeth beth fo’u profiad neu fodd ariannol.

Rydyn ni’n rhoi pwys mawr ar wneud ein cyrsiau’n hygyrch i bob person ifanc sydd â gwir ddiddordeb yn y theatr. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gymorth ariannol cysylltwch â ni.

Dysgwch fwy am astudio yn RWCMD


Adran archwilio

Newyddion diweddaraf