

Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bartneriaeth newydd uchelgeisiol rhwng Jazz Explorers Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd, ein nod yw adeiladu rhaglen datblygu talent newydd i ysbrydoli a chefnogi cerddorion jazz ifanc ledled Cymru.
Dydd Gwener 14 Ebrill tan ddydd Sul 16 Ebrill 2025 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Gall darpar gerddorion jazz ifanc gymryd rhan mewn tridiau o gwrs cyffrous yn gweithio gydag addysgwyr jazz o fri rhyngwladol, gan arwain at berfformiad cyhoeddus anffurfiol.
Mae’r cwrs hwn yn agored i bob offerynnwr a chanwr rhwng 14 a 22 oed. Nid oes angen profiad blaenorol o jazz arnoch, ond rydyn ni’n awgrymu bod pawb o leiaf o safon Gradd 5 (neu gyfwerth) ar eu hofferyn. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu rhannu'n grwpiau gwahanol ar sail oedran a phrofiad i sicrhau bod pawb yn cael y lefel gywir o gymorth.
Y tiwtoriaid arweiniol fydd Pennaeth Jazz CBCDC, Andrew Bain, Paula Gardiner a Huw Warren
Cost
£165 am y cwrs yn unig
£165 ar gyfer y cwrs a llety os ydych yn byw y tu allan i Gaerdydd
£240 ar gyfer y cwrs a llety os ydych yn byw yng Nghaerdydd
Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau nag sydd gennym o lety, byddwn yn blaenoriaethu ar sail pellter teithio. Mae rhagor o wybodaeth am fwrsariaethau ar gael ar wefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Bydd cinio yn cael ei ddarparu i bawb sy'n cymryd rhan. I'r rhai sy'n aros dros nos, byddwn hefyd yn darparu brecwast a swper. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol yn y ffurflen gofrestru.