

CBCDC Ifanc
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent ymhlith pobl ifanc a darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol y diwydiannau creadigol sydd â manteision economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol enfawr i Gymru. Mae ein gwaith gyda phobl ifanc dan 18 oed yn cael ei ddatblygu’n barhaus ac mae gennym nifer o brosiectau cyffrous wedi’u hanelu at bobl ifanc.
Gweithdai trochi mewn cerddoriaeth
Gyda chefnogaeth Sefydliad Mosawi, rydym yn cynnal cyfres o weithdai trochi mewn cerddoriaeth ar benwythnosau sydd wedi'u dylunio i ysbrydoli pobl i gymryd rhan, o ddechreuwyr hyd at weithwyr proffesiynol newydd. Eleni mae'r rhain yn cynnwys:
Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bartneriaeth newydd uchelgeisiol rhwng Jazz Explorers Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO)
Cerddorfa gynhwysol ac arloesol yw’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) lle mae cerddorion sy’n anabl ac nad ydynt yn anabl gwych rhwng 11-25 oed yn rihyrsio ac yn perfformio gyda’i gilydd.
Ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau
Mae gan y Coleg ymrwymiad dwfn i gyfoethogi’r dirwedd ddiwylliannol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ymgysylltiad sylweddol ag ysgolion a chymunedau wedi’i wreiddio yn ein cyrsiau gradd, gan gynnwys drwy bartneriaethau â sefydliadau sy’n mynd i’r afael ag anfantais/amddifadedd cymdeithasol fel Making Music, Changing Lives yn Nhrelái, a Chanolfan Oasis yn Sblot.
Cyrsiau gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu
Rydym yn cynnig cyfleoedd i archwilio Theatr Dechnegol, Rheoli Llwyfan a Dylunio i bobl ifanc 11-18 oed.

Ein campws

Ysgolion a cholegau
