Neidio i’r prif gynnwys

Ysgolion a cholegau

Gan weithio gyda dros 100 o ysgolion, colegau, sefydliadau cymunedol ac elusennau bob blwyddyn, rydym yn darparu ystod o weithdai pwrpasol, perfformiadau a phrosiectau seiliedig ar y cwricwlwm ar gyfer plant a phobl ifanc.

Gweithdai, perfformiadau a phrosiectau seiliedig ar y cwricwlwm

Er mwyn sicrhau cyfranogiad gan bawb, waeth beth fo’u cefndir,  mae'r gweithdai'n cael eu darparu am ddim.

Ym maes drama, ein nod yw meithrin hunanhyder, sgiliau cymdeithasol a chreadigrwydd pobl ifanc mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae ein holl staff yn actorion, cyfarwyddwyr neu arbenigwyr diwydiant proffesiynol.

Ym myd cerddoriaeth, rydym yn arddangos ystod o arddulliau, o’r clasurol i jazz a theatr gerddorol, ac rydym yn aml yn cynnwys ein myfyrwyr gradd ac ôl-radd dawnus sy’n datblygu sgiliau allgymorth proffesiynol fel rhan o’u hastudiaethau.

Bob blwyddyn byddwn yn darparu ystod o weithdai pwrpasol ar gyfer ysgolion, wedi’u teilwra cymaint â phosibl ar gyfer anghenion grwpiau penodol o ddisgyblion.

I holi ynglŷn â hyn neu am unrhyw weithgaredd allgymorth, ffoniwch 029 2039 1430 neu e-bostiwch outreach@rwcmd.ac.uk.

Adnodd addysgol

Mae ein hadnodd addysgol newydd sbon ar gyfer athrawon yn cynnwys cyfweliadau unigryw gydag aelodau allweddol o gast a thîm creadigol ein cynhyrchiad diweddar o ‘Macbeth’ William Shakespeare.

Grwpiau ymgynghori addysg

Rydym yn gweithio’n agos gyda grwpiau ymgynghori er mwyn deall sut rydym yn cefnogi amrywiaeth o ran myfyrwyr a mynediad cyhoeddus i’r Coleg. 

Mae’r grwpiau’n cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein i drafod syniadau ac i roi llais i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’r grwpiau hyn yn aml hefyd yn cael mwynhau ein perfformiadau byw fel rhan o’r gwaith sy’n digwydd.

Os hoffech wybod mwy am y grwpiau hyn, neu os hoffech ymuno ag un, cysylltwch â'n Partner Ymgysylltu â Chymunedau, Guy O' Donnell.

Ymweliadau ysgolion a cholegau â CBCDC

Fel rhan o’n hymrwymiad i weithio gydag ysgolion er mwyn ehangu mynediad i’r Coleg, efallai y gallwn ymweld â chi i gyflwyno amrywiaeth o sgyrsiau a mynychu digwyddiadau yn eich ysgol (yn seiliedig ar rai cyfyngiadau daearyddol). Efallai y gallwn hefyd drefnu ymweliadau â’r Coleg.

'Roedd y plant yn llawn cyffro wrth gerdded yn ôl i'r ysgol. Roedden nhw wir yn teimlo bod y profiad fel amgueddfa yn dod yn fyw.

Roedd mor ddiddorol ac addysgiadol ond yn symud ar gyflymder perffaith lle'r oedd y plant yn gallu dilyn y stori. Hoffwn fynegi ein diolch a'n gwerthfawrogiad.

Roedd wir yn wych ac yn rhywbeth y bydd y plant yn ei gofio am byth.'
Ysgol St Mary the VirginButetown, Carerdydd

Perfformiadau ysgolion

Rydym yn cynnig nifer o berfformiadau yn benodol ar gyfer grwpiau ysgol. Cynhelir y perfformiadau hyn yn ystod y dydd gan roi digon o amser i chi wylio’r perfformiad a dychwelyd i’r ysgol o fewn diwrnod ysgol arferol.


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf