Ehangu mynediad i CBCDC
Rydym yn cefnogi darpar fyfyrwyr a sefydliadau addysgol i wneud CBCDC yn fan i bawb astudio ynddo ac ymweld ag ef drwy rymuso a chefnogi pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Partner Ymgysylltu â Chymunedau
Mae Guy yn gweithio ar ddarparu ystod eang o weithgarwch ymgysylltu, gan weithio ar draws pob agwedd ar y Coleg gyda darpar fyfyrwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion, colegau, aelodau cynulleidfaoedd, sefydliadau partner, gwneuthurwyr penderfyniadau a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Astudio
Rydym yn cefnogi darpar fyfyrwyr a sefydliadau addysgol i wneud CBCDC yn fan astudio i bawb, gan gynorthwyo darpar fyfyrwyr o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddod o hyd i'w lle yma yn y Coleg. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys cymorth ariannol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio gan gynnwys Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau Israddedig (myfyrwyr y DU yn unig) a Chronfa Galedi.
Sgyrsiau ac ymweliadau ag ysgolion
Fel rhan o’n hymrwymiad i weithio gydag ysgolion er mwyn ehangu mynediad i’r Coleg, efallai y byddwn yn gallu ymweld â’ch ysgol i gyflwyno ystod o sgyrsiau a mynychu digwyddiadau yn eich ysgol (yn seiliedig ar rai cyfyngiadau daearyddol). Efallai y byddwn hefyd yn gallu trefnu i chi ymweld â’r Coleg.
I wneud cais am ymweliad campws neu ysgol, llenwch ein ffurflen archebu.
Cynllun tocynnau cymunedol
Mae CBCDC yn lleoliad perfformio gydag amrywiaeth o theatrau. Rydym yn gweithio i gynorthwyo’r cyhoedd i wylio’r ystod lawn o berfformiadau. Mae gennym lawer o berfformiadau, ac mae llawer o'r rhain am ddim ac yn rheolaidd megis AmserJazz.
Rydym yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi pobl a allai wynebu rhwystrau yn dod i’r Coleg. Os ydych yn aelod o un o’r grwpiau isod a’ch bod yn awyddus i weld perfformiad yn RWCMD, llenwch y ffurflen hon neu ffonio ein Partner Ymgysylltiad Cymunedol – Guy O’Donnell ar 029 2034 2854
Pobl o’r ardaloedd isod o Gaerdydd:
- Trelai
- Caerau
- Treganna
- Glanyrafon
- Grangetown
- Butetown
- Adamsdown
- Sblot
- Tredelerch
- Llanrhymni
- Trowbridge
- Llanedern
- Llaneirwg
- Pentre-Baen
Pobl o’r ardaloedd isod:
- Aberdâr
- Y Barri
- Pen-y-bont ar Ogwr.
- Caerffili
- Merthyr Tudful
- Castell-nedd Port Talbot
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
Ceiswyr lloches a ffoaduriaid (wedi'u hatgyfeirio drwy aelodaeth sefydliadau partner)
Pobl anabl (wedi'u hatgyfeirio drwy aelodaeth sefydliadau partner neu dystiolaeth o statws)
Aelodau o Rwydwaith Credyd Amser Tempo
Plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Grwpiau ac unigolion sy'n cael eu cefnogi gan Race Council Cymru a’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru.
Rydym yn awyddus i ddysgu mwy am ba rwystrau i astudio neu berfformiadau byw sy'n bodoli a sut y gallwn weithio i'w gwaredu. Ceisiwn ddysgu, rhannu a gweithio gydag amrywiaeth o gymunedau.