Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd
Dyfarniad:
Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd
Corff dyfarnu:
Prifysgol De Cymru
Lleoliad astudio:
Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)
Dyddiad dechrau:
03 Awst 2025
Hyd:
2 flynedd llawn amser
Cod y cwrs:
RW01 – UCAS
Cyflwyniad
Drwy brofiad gwaith a hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu sut mae cynllunio, drafftio, adeiladu a gosod setiau i safon broffesiynol wrth weithio ar ein cynyrchiadau cyhoeddus niferus.
Trosolwg o’r cwrs
Mae lleoliadau gwaith a hyfforddiant ymarferol yn ein gweithdai stiwdio wrth galon y cwrs arbenigol hwn sy’n canolbwyntio ar adeiladu setiau ar gyfer cynyrchiadau theatrig.
O’r diwrnod cyntaf yn ein gweithdai o’r radd flaenaf yn Stiwdios Llanisien, byddwch yn dysgu technegau adeiladu sylfaenol mewn gwaith coed, gwaith metel a weldio. Ond byddwch hefyd yn defnyddio offer digidol sy’n hanfodol mewn gwaith adeiladu setiau, fel SketchUp ac Auto Cad, a chyfarpar rheoli rhifol cyfrifiadurol (CNC).
Ar ôl eich hyfforddiant gweithdy, byddwch wedyn yn dod yn fwy cyfarwydd ag amgylchedd y theatr, gan ddysgu sgiliau sylfaenol mewn offer mynediad, rigio a systemau hedfan. Byddwch hefyd yn cael gwell dealltwriaeth o rolau a dyletswyddau aelodau perthnasol y tîm ac yn cymryd rhan yn y gwaith o lwytho cynyrchiadau a’u gosod yma yn y Coleg.
Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs hwn, sef yr unig un o’i fath yn y DU, yn cynnwys naw lleoliad gwaith chwe wythnos – ac mae pedwar ohonynt yn cael eu cynnal yn y Coleg. Bydd y pump arall yn cael eu cynnal yn allanol gyda’n partneriaid proffesiynol, sef rhai o’r cwmnïau mwyaf ac uchaf eu bri o’r diwydiannau teledu, ffilm a theatr yng Nghymru a’r DU.
Yn ein hamgylchedd creadigol croesawgar, byddwch yn datblygu’r holl sgiliau proffesiynol, ymarferol a thechnegol sydd eu hangen arnoch i gael gwaith fel technegydd adeiladu ar ôl graddio – swydd y mae galw mawr amdani.
Pam astudio’r cwrs hwn?
- Bydd galw mawr am eich sgiliau – ar hyn o bryd mae prinder technegwyr lefel mynediad cymwys sydd â chymwysterau addas yn y diwydiannau llwyfan a sgrin.
- Byddwch yn cael eich arwain gan ymarferwyr arbenigol sy’n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd. Maent yn cynnig addysg o’r radd flaenaf i chi, yn ogystal â mentoriaeth a chyfleoedd rhwydweithio hefyd.
- Mae eich carfan yn fach – dim ond wyth myfyriwr i gyd – felly byddwch yn cael llawer iawn o gefnogaeth a sylw unigol yn ystod eich cwrs.
- Rydym wedi ffurfio partneriaeth â rhai o’r cwmnïau mwyaf yn y DU, sy’n cynnig lleoliadau gwaith proffesiynol a rolau adeiladu arbenigol i’n myfyrwyr ar ôl graddio – maent yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Gwasanaethau Theatrig Caerdydd, Bay Productions, Wild Creations a Bad Wolf. Mae gennym hefyd gysylltiadau â rhai o’r cwmnïau a’r theatrau mwyaf eu bri yn y DU a thramor, gan gynnwys y National Theatre, y Royal Court a’r Royal Shakespeare Company.
- Byddwch yn ysgwyddo mwy a mwy o gyfrifoldeb dros greu a gosod setiau llwyfan ar gyfer ein cynyrchiadau mewnol, gan gynnwys opera a theatr gerdd. Byddwch yn ymgymryd â rôl arweinydd adeiladu yn o leiaf un o’ch lleoliadau. Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwch yn dilyn y broses ddylunio, yn gweithio gyda’r cynllunydd i gynhyrchu’r lluniadau adeiladu gofynnol, yn arwain y gwaith adeiladu ac yn gosod y set yn derfynol.
- Byddwch yn gweithio yn ein gweithdai mawr, sy’n cynnwys yr offer i gyd, yn Stiwdios Llanisien, sef y stiwdios mwyaf a’r gorau o unrhyw conservatoire cystadleuol.
- Ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd, cewch ddewis ‘ychwanegu’ at eich cymhwyster a chael BA (Anrh) mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio drwy gwblhau blwyddyn ychwanegol o astudio sy’n arbenigo mewn adeiladu golygfeydd.
- Ochr yn ochr â’ch lleoliadau, byddwch yn cael dosbarthiadau nos yn y Coleg i’ch helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth fasnachol ac ariannol, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ac arwain ym maes rheoli prosiectau.
- Mae cydweithio’n elfen hanfodol o bopeth rydym yn ei wneud yma. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr â myfyrwyr cynllunio a rheoli llwyfan eraill, yn ogystal â’r rheini sy’n astudio ein cyrsiau celfyddydau perfformio. Mae’r math hwn o waith yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth ac empathi o ddisgyblaethau celfyddydau creadigol eraill – ond mae hefyd yn eich helpu i feithrin partneriaethau sy’n gallu para ymhell ar ôl i chi raddio.
Eisteddodd pennaeth y cwrs, Mike Robinson, a Bea, myfyriwr Adeiladu Golygfeydd i siarad am y cwrs.
"Doedd gen i ddim gwybodaeth flaenorol am waith coed nac adeilad, ond roeddwn i'n gwybod mai dyma oeddwn i eisiau ei wneud.
Fe wnes i ddod o hyd i'r cwrs ar-lein ar ôl siarad â Screen Alliance Wales, a chyn gynted ag y des i i'r gweithdy roeddwn i fel, 'Mae angen i mi ddod yma!''Bea MasseyMyfyriwr Adeiladu Golygfeydd
Gwybodaeth arall am y cwrs
'Mae gwaith adeiladu golygfeydd yn ffynnu ochr yn ochr â thwf y maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae’n bleser gennym gefnogi’r Coleg i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr i ymgymryd â swyddi newydd yn y diwydiant.'Hannah RaybouldRheolwr Gweithrediadau Bad Wolf
Gwybod mwy am astudio cynllunio yn CBCDC
Cynllunio
Pobl
Storïau
Agor drysau i fyd o gyfleoedd: Dewch i gwrdd â Hannah Walters, sydd wedi graddio o’r cwrs Adeiladu Golygfeydd
Adeiladu Golygfeydd: Creu graddedigion sy’n barod ar gyfer diwydiant
Adeiladu Golygfeydd: Adeiladu Dyfodol yn y Diwydiant Celfyddydau
Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf
Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau
Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy
Allow Unistats content?
Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.