Neidio i’r prif gynnwys

Amgylchedd a chynaliadwyedd

Rydym yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd byd-eang ac yn ymuno â’r nifer o sefydliadau ledled y byd sy’n galw am weithredu ar frys i fynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Ar draws cymuned CBCDC, rydym yn gweithio'n galed i gyrraedd carbon sero cyn gynted ag y gallwn. Rydym yn cymryd camau breision i sicrhau bod ein harferion, ein perfformiadau a'n polisïau yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae'r Grŵp Cynaliadwyedd yn y Coleg yn cwrdd yn rheolaidd, ac mae cydweithwyr yn rhannu'r ymdrechion mae eu timau yn eu gwneud i leihau ein hôl troed carbon.

Rydym yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i gael cyngor ynglŷn â'r camau nesaf i'n helpu i gyrraedd ein nod. Byddwn hefyd yn rhannu map ffordd carbon cynhwysfawr ar gyfer y Coleg i egluro'r camau'r ydym yn eu cymryd.

Gan ddefnyddio llinell sylfaen ein hôl troed carbon, bydd ein map ffordd yn amlinellu’n glir gamau ymarferol a chost effeithiol ar draws ein hystâd, trefn lywodraethu, addysgu, perfformio, ymgysylltu a gweithgareddau masnachol. Caiff hyn ei gefnogi gan bolisi er mwyn cael yr effaith orau posibl.

Rydym hefyd wedi ymuno â Race to Zero, gan bwysleisio ein hymrwymiad i adferiad carbon sero iach a gwydn.

'Rydym yn benderfynol o leihau ein hôl troed amgylcheddol ac yn ymrwymo i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol.

Ein adduned yw gweithredu ar y cyd dros amser i gefnogi'r achos byd-eang ar gyfer dyfodol gwell a gwyrddach i'n planed ac i bob un ohonom.'
Yr Athro Helena GauntPrifathro

Prosiect aráe paneli solar

Yn 2022, fe wnaethom osod 498 o baneli a allai arbed 65 tunnell o garbon y flwyddyn, gan helpu i leihau costau ynni.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

90%

o’r deunydd a gafodd ei dynnu o waith cyfalaf yr Hen Lyfrgell yn ystod haf 2022 wedi cael ei ailgylchu. 

80%

o’n goleuadau ar y prif gampws yn rhai LED


Archwilio’r adran

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf