Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Materion cynaliadwyedd

Ei haddewid yw adeiladu Coleg cynaliadwy, carbon niwtral ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dyma’r crynodeb diweddaraf o ddatblygiadau gan bob adran wrth i ni wneud ymdrech gymunedol CBCDC i leihau ein hôl troed carbon:

Uwchraddio goleuadau cynhyrchu LED

Mae’r tîm gweithrediadau technegol wedi bod yn brysur dros ben ar ôl cael cymeradwyaeth i uwchraddio goleuadau cynhyrchu LED mawr. Mae hyn yn ein galluogi i gael gwared ar tua 60 o osodiadau gwynias/twngsten. 

Mae’r holl systemau AV yn cael eu diweddaru fel y gellir eu cau i lawr o bell yn y nos a fydd yn lleihau’r defnydd o ynni ac yn ymestyn oes offer.

Mae treialon terfynol defnyddio batris y gellir eu hailwefru mewn meicroffonau radio ar gynyrchiadau graddfa lawn a defnyddio dolenni elastig ar gyfer ceblau wedi cael ymatebion cadarnhaol.

Safonau Llyfr gwyrdd Theatr

Mae’r tîm cynhyrchu wedi bod yn rhoi goleuadau arddangos newydd ar waith ac roedd y sioe Celf Gwisgadwy ddiweddar wedi’i goleuo’n llwyr â LEDs. Nawr mae’r tîm yn parhau â’u taith i wneud ein sioeau’n fwy cynaliadwy yn y flwyddyn academaidd newydd drwy weithredu ‘Safonau Llyfr Gwyrdd Theatr’ newydd ar draws yr holl gynyrchiadau drama. Bydd y tîm hefyd yn cyflwyno rhestr eiddo gyda’n stoc deunyddiau presennol i’n helpu i ailddefnyddio deunyddiau cynhyrchu blaenorol. Safonau Llyfr Gwyrdd y Theatr yma 

Mae’r gweithdy golygfeydd yn Llanisien wedi bod yn cryfhau ei bartneriaeth â Chyngor Caerdydd a’i adnodd ailgylchu a benthyca newydd i’r diwydiannau creadigol. 

Mae hwn wedi’i sefydlu i ailddefnyddio, ailgylchu a chyfnewid celfi golygfeydd, ac eitemau dros ben tra hefyd yn helpu gyda mater storio. Gallwch ddarllen rhagor am gynllunio a chynaliadwyedd yma

'Rydym wedi meithrin perthynas waith gref gyda Chyngor Caerdydd a’u hadran addysg. Un o’r ffyrdd rydym yn cyfrannu at gynaliadwyedd yw drwy gyfrannu golygfeydd o’n sioeau Coleg i ysgolion a grwpiau cymunedol.

Mae hyn yn caniatáu iddynt ail-ddefnyddio’r setiau, gan leihau gwastraff a hyrwyddo dull mwy ecogyfeillgar.

Wrth gwrs, rydym hefyd yn ei gwneud yn flaenoriaeth i ailddefnyddio elfennau golygfeydd o fewn ein cynyrchiadau ein hunain pryd bynnag y bo modd, gan leihau ein heffaith amgylcheddol ymhellach.'
Laura MartinDarlithydd Celf Golygfeydd

Fioamrywiaeth a chynaliadwyedd

Diolch i’n tîm ystadau, mae ein paneli solar wedi bod yn goleuo ein hadeilad (yn llythrennol) ers rhai misoedd bellach. Yn dilyn ymlaen o hyn, mae’r tîm cynaliadwyedd wedi bod yn ymchwilio i brosiectau y mae campysau prifysgolion eraill wedi’u rhoi ar waith yn llwyddiannus ac y byddwn yn dechrau eu hystyried fel rhan o’n hymrwymiadau i fioamrywiaeth a chynaliadwyedd. 

Ymhlith y syniadau mae cychod gwenyn, gweithio tuag at ddod yn Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod a chynnig am ardd i’r Coleg.

Cyfathrebu di-bapur

O ran cyfathrebu, mae pob tîm yn dal i anelu at fynd yn ddi-bapur. Dim ond ar sail ceisiadau y mae’r tîm academaidd yn argraffu sgorau a sgriptiau yn hytrach nag argraffu gormod, gan leihau’n sylweddol faint o bapur a ddefnyddir fesul sioe/cynhyrchiad. 

Ym maes cerddoriaeth, roedd adborth ar gyfer asesiadau siambr bron yn gyfan gwbl electronig, gyda llond llaw o adroddiadau papur. 

Bydd adborth ar gyfer asesiadau ymarferol Blynyddoedd 1 a 2 yn cael eu rheoli’n electronig, a chynigir dyfeisiau electronig i bob Arholwr Cyswllt i ysgrifennu.

Priodasau ac arlwyo cynaliadwy

Yn y tîm llogi, mae priodasau wedi ymuno â’r Gynghrair Priodasau Cynaliadwy, sy’n hyrwyddo lleoliadau cynaliadwy. Mae’r tîm wedi cyflwyno ddulliau di-bapur lle mae manylion cwsmeriaid yn cael eu cymryd yn ddigidol, a byddant nawr yn cynghori yn erbyn defnyddio pecynnau conffeti wedi’u rhag-bacio.

Yn ymwneud â bwyd, mae ein tîm arlwyo bellach wedi newid pob cyllell a fforc blastig gyda dewisiadau pren i unrhyw un sy’n dymuno mynd â’u bwyd o’r ardal fwyta. Nid yw blasynnau (e.e. halen a phupur) mewn bagiau plastig bellach, gan wneud ein ffreutur yn lle mwy cynaliadwy i fwyta.

Mae’n wych gweld pawb yn CBCDC yn cydweithio i greu dyfodol gwyrddach.

Storïau eraill