Neidio i’r prif gynnwys

Paratoi i symud i Gaerdydd

Ar y dudalen hon gallwch ddod o hyd i bopeth y mae angen i chi ei wybod am ddod o hyd i lety, a gwneud cais am lety, a sut i baratoi i ddod yma i astudio gyda ni yng Ngholeg Brenhinol Cymru.

Dewis ble i fyw

Ar ôl i chi gael lle yn CBCDC, y peth cyntaf i’w wneud yw dewis ble rydych chi eisiau byw.   

Gall dod o hyd i’r llety iawn swnio’n anodd, yn enwedig os dyma’r tro cyntaf i chi fyw oddi cartref. 

Ond cofiwch ein bod yn gwarantu llety mewn neuadd breswyl i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf, gan gynnwys ein myfyrwyr rhyngwladol a’n myfyrwyr ôl-raddedig. 

Efallai y byddwch yn dewis byw mewn llety preifat – felly rydym wedi paratoi ychydig o wybodaeth i’ch helpu, beth bynnag yw eich dewis.

Campws y Coleg: Lle byddwch yn astudio

I’ch helpu i gynllunio ble i fyw, mae gennym wahanol adeiladau ar y campws y gallech eu defnyddio yn ystod eich cyfnod yn y Coleg.

Y ddau brif adeilad yw:

  • Ein prif adeilad ar Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER
  • Stiwdios Llanisien, Parc Busnes Caerdydd, 45 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG

Mae neuadd breswyl Severn Point tua 12 munud ar droed o’r Coleg, i fyny Heol y Gogledd.

Lleoliad, lleoliad, lleoliad

Os ydych yn dymuno rhentu llety preifat, rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio yn ardaloedd cyfagos Cathays a’r Rhath, sydd â chymunedau myfyrwyr go iawn.  

Dyma’r ardaloedd mwyaf poblogaidd ar gyfer llety myfyrwyr, ac mae llawer o wahanol opsiynau ar gael i chi. 

Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol ar draws y ddinas ar fysiau a threnau, ond oherwydd bod Caerdydd yn ddinas fach, mae’r rhan fwyaf o’r lleoedd aros o fewn pellter cerdded i’r Coleg.

Mae’r Coleg ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda phob myfyriwr yn y Coleg i’w helpu i ddod o hyd i lety addas, a hyd yn oed ffrindiau i rannu llety gyda nhw o bosibl. 

Cadw’n ddiogel yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn ddinas ddiogel, groesawus sy’n cyrraedd y brig yn rheolaidd mewn pleidleisiau sy’n mesur ansawdd bywyd a diwylliant. Er hyn, i’r rhai hynny sy’n newydd i fyw oddi cartref, rydyn ni a’n partneriaid yn Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd yn argymell defnyddio ychydig o synnwyr cyffredin er mwyn diogelu eich hun a’ch gwneud yn llai agored i unrhyw droseddau posibl.


Archwilio’r adran

Newyddion diweddaraf