Neidio i’r prif gynnwys

Cyngor i fyfyrwyr ar gyllidebu

Rydyn ni am i’ch amser yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fod yn ddifyr ac yn ddi-straen, felly dyma rai awgrymiadau cyllidebu ymarferol i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch arian.

Cynllunio ymlaen llaw

Cofiwch, mae angen i’ch benthyciad myfyrwyr bara drwy’r tymor a’r gwyliau. Dylech osgoi gorwario’n gynnar drwy flaenoriaethu pethau pwysig fel rhent, bwyd a theithio. 

  • Lluniwch gyllideb ddrafft cyn i’r tymor ddechrau, gan amlinellu incwm a threuliau. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cymorth cyllid myfyrwyr llawn sydd ar gael ac yn cadw at ddyddiadau cau talu ffioedd dysgu.

Awgrymiadau ar gyfer arbed arian o ddydd i ddydd

  • Coginiwch gartref yn hytrach na bwyta allan a siopa o gwmpas am fargeinion. Defnyddiwch gardiau ffyddlondeb archfarchnadoedd a phrynu eitemau hanfodol mewn swmp.
  • Arhoswch nes bydd y tymor yn dechrau cyn prynu llyfrau neu offer—gallwch fenthyca, rhannu, neu brynu’n ail-law.
  • Cofrestrwch ar gyfer llwyfannau fel NUS Totum, Student Beans, Unidays a Groupon i arbed arian ar fwyta allan, siopa ac adloniant.
  • Beth am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, beicio, neu fuddsoddi mewn Cerdyn Rheilffordd 16-25 neu Gerdyn Bws i Bobl Ifanc i gael gostyngiadau ar deithio.

Cadwch olwg ar eich arferion gwario

  • Talwch eich biliau’n brydlon i atal taliadau ychwanegol. 
  • Defnyddiwch gardiau credyd yn ddoeth i osgoi dyled tymor hir. 
  • Ystyriwch gerdyn NUS Totum ar gyfer gostyngiadau i fyfyrwyr.

Cael cymorth ar gyfer llesiant ariannol

Mae cynghorydd o Brifysgol De Cymru yn ymweld â'n campws yn rheolaidd. I drefnu apwyntiad, anfonwch e-bost i student.services@rwcmd.ac.uk.

Bydd yn gallu cynnig cyngor ar y canlynol: 

  • Costau byw 
  • Cyllid myfyrwyr 
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau 

Dolenni defnyddiol

Drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, gallwch fwynhau eich cyfnod yn y Coleg a gwneud i’ch arian bara.


Archwilio’r adran