Neidio i’r prif gynnwys

Sut i dalu eich ffioedd dysgu

Fel myfyriwr, mae’n ofynnol i chi dalu ffioedd dysgu i ymrestru a chael mynediad at adnoddau a dosbarthiadau’r Coleg.

Sut mae fy ffioedd yn cael eu talu i’r Coleg?

Mae sut mae eich ffioedd yn cael eu talu yn dibynnu ar eich statws (e.e. myfyriwr cartref, myfyriwr rhyngwladol, yn cael benthyciad neu’n hunan-gyllido). Isod ceir dadansoddiad o’r gwahanol opsiynau:

Gostyngiad setlo’n gynnar

Os gallwch dalu eich ffioedd yn llawn cyn i’ch cwrs ddechrau, efallai y byddwch yn gymwys i gael Gostyngiad Setlo’n Gynnar o 2%. 

Dim ond i ffioedd dysgu rhyngwladol ac ôl-raddedig y mae’r gostyngiad yn berthnasol. Nid yw'n berthnasol i’r ffi ar gyfer myfyrwyr cartref israddedig.

Sut gallaf dalu’r ffioedd?

Rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Convera i ddarparu ffordd syml, ddiogel ac effeithlon o dalu eich ffioedd ar-lein. Gallwch ddefnyddio Convera i dalu eich ffioedd yn ddiogel mewn dros 140 o wahanol fathau o arian cyfred mewn dros 200 o wledydd.

Pam defnyddio Convera?

Cwestiynau cyffredin

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu fy ffioedd?

Rhaid i fyfyrwyr dalu neu drefnu talu ffioedd dysgu cyn cofrestru. Mae’n hanfodol ymateb yn brydlon i unrhyw ohebiaeth am anfonebau neu ddyledion sydd heb eu talu.

Gall anwybyddu ceisiadau am daliadau arwain at ganlyniadau difrifol, fel diddymu mynediad at adnoddau neu ddeunyddiau. Noder na all myfyrwyr nad ydynt yn trefnu taliad gofrestru nac ailgofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Gwybodaeth ddefnyddiol


Archwilio’r adran