Neidio i’r prif gynnwys

Defnyddio ysgoloriaeth neu fwrsariaeth

Dysgwch sut gallwch chi ddefnyddio eich ysgoloriaeth neu’ch bwrsariaeth i gefnogi eich astudiaethau.

Ffioedd Dysgu

Taliadau cynhaliaeth

Bydd unrhyw swm sy'n weddil o gymorth ysgoloriaeth ar ôl talu eich ffioedd dysgu yn cael ei dalu i chi mewn tri rhandaliad cyfartal bob tymor.

Os byddwch yn cael benthyciad ffioedd dysgu llawn, bydd eich ysgoloriaeth lawn yn cael ei thalu mewn tri rhandaliad cyfartal bob tymor.

Caiff taliadau eu gwneud drwy drosglwyddiad banc i’ch cyfrif banc yn y DU, fel arfer yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd, yn ystod pedwaredd wythnos Tymor y Gwanwyn, ac yn ystod pedwaredd wythnos Tymor yr Haf.

Gallwch gyflwyno eich manylion banc ar ôl i chi gofrestru a chael mynediad at systemau TG a chyfrif e-bost Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bwrsariaethau israddedig

Darparu ar gyfer cynhaliaeth yw diben bwrsariaethau israddedig ac fe fyddan nhw'n cael eu talu’n uniongyrchol i chi i’r un cyfrif banc â’ch benthyciad myfyrwyr. Bydd symiau a dyddiadau’r taliadau yn cael eu hamlinellu yn eich llythyr dyfarniad bwrsariaeth.


Archwilio’r adran