

Croeso i CBCDC
Rydym mor falch o’ch croesawu i’n cymuned greadigol. Dyma ddechrau taith anhygoel, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Llongyfarchiadau am gael cynnig lle i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
I’ch helpu i roi trefn ar bethau, mae ein Porth Croeso yn cynnwys popeth y bydd arnoch ei angen i baratoi ar gyfer cyrraedd y Coleg. O gynllunio eich taith i setlo yn y Coleg, rydyn ni wedi meddwl am bopeth.
Cyn i chi gyrraedd
Ydych chi’n paratoi i ddod aton ni? Dyma lle gallwch chi ddod o hyd i bopeth y mae arnoch ei angen er mwyn cynllunio ar gyfer symud:
- Canllawiau ar gyllid myfyrwyr, gan gynnwys ffioedd, cyllid, ysgoloriaethau a bwrsariaethau.
- Cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer eich tasgau cofrestru ar-lein.
- Cyngor ynglŷn â theithio i Gaerdydd a dod i adnabod eich dinas newydd.
- Opsiynau llety, boed mewn neuadd breswyl neu lety preifat, a chyngor ar y dreth gyngor.
Pan fyddwch yn cyrraedd yma
Mae'r adran hon yn ymdrin â phopeth fydd ei angen arnoch i setlo pan fyddwch yn cyrraedd yma:
- Cyngor da i fyfyrwyr newydd i'ch helpu i deimlo'n gartrefol
- Casglu eich cerdyn adnabod a chymorth TG
- Archwilio bywyd yn y Coleg, o'r campws i Undeb y Myfyrwyr
- Gwybodaeth am gymorth meddygol a lles
Myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych yn ymuno â ni o dramor, mae gennym ganllaw penodol i sicrhau bod eich trefniadau symud yn digwydd mor ddirwystr ag sy’n bosibl. Mae’r canllaw’n cynnwys:
- Gwybodaeth am fisa a sut i ddechrau’r broses.
- Cyngor ymarferol ar fyw dramor, fel beth i’w bacio a sut i drefnu gwasanaethau bancio a ffôn symudol.
- Cyngor ar addasu i fywyd yn y DU a dod yn gyfarwydd â diwylliant newydd.
- Cysylltiadau allweddol, gan gynnwys conswliaid a gwasanaethau.
Rhestrau gwirio i ddechreuwyr
I wneud yn siŵr eich bod yn hollol barod, edrychwch ar ein rhestrau gwirio defnyddiol:
- Rhestr wirio gyffredinol yn ymdrin â phopeth y mae angen i chi ei wneud cyn i chi gyrraedd.
- Rhestr wirio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol â chyngor ychwanegol ar symud i’r DU.
Gallwch hefyd weld gwybodaeth i warcheidwaid a rhieni, cwestiynau cyffredin ar gyfer myfyrwyr newydd, a rhestr o gysylltiadau pwysig i’ch helpu ag unrhyw gwestiynau sydd gennych.