

Beth i ddod gyda chi
Byddwch yn barod i bacio ar gyfer y cam mawr o symud i Gaerdydd! Edrychwch ar ein rhestr wirio ddefnyddiol i wneud yn siŵr nad ydych yn anghofio’r pethau pwysig.
Cofiwch eich dogfennau
Gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw ddogfennau y gallech fod eu hangen pan fyddwch oddi cartref – mae’n syniad da tynnu llun o ddogfen fel bod gennych gofnod ar eich ffôn hefyd.
Gallai’r dogfennau hyn gynnwys:
- Pasbort/trwydded yrru/cerdyn adnabod
- Yswiriant
- Llythyrau bwrsariaeth/cyllid
- Lluniau pasbort – bob amser yn ddefnyddiol
- Cardiau banc a chardiau disgownt
- A chofiwch ddod ag unrhyw feddyginiaeth gyda chi – copïau o bresgripsiwn
Llety: creu cartref hapus, lle mae popeth wrth law!
Os ydych yn aros mewn llety myfyrwyr bydd yr ystafelloedd wedi’u dodrefnu, felly does dim angen i chi brynu dodrefn mawr ar gyfer eich ystafell. Er hyn, bydd angen i chi ddod â’ch dillad gwely, offer cegin, eitemau ymolchi a’ch nwyddau glanhau eich hun.
Os ydych yn aros mewn llety sy’n cael ei rentu’n breifat, gofynnwch i’ch landlord neu asiant am ragor o wybodaeth ynglŷn â beth sy’n cael ei ddarparu.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Paratoi i symud i Gaerdydd

Canllaw i Gaerdydd
