Neidio i’r prif gynnwys

Bywyd myfyrwyr

Mae Coleg Brenhinol Cymru yn adnabyddus am fod yn lle croesawus a chynhwysol i astudio a phrofi bywyd myfyrwyr ar ei orau. Mae arnom eisiau i chi gael y profiad gorau tra byddwch yn astudio gyda ni. Ond mae cymaint mwy na hynny!

Gwasanaethau Myfyrwyr

Yma i’ch helpu i gael yr amser gorau yn CBCDC. Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn chwarae rôl allweddol yn hyn o beth. Gall symud oddi cartref fod yn adeg anodd. Mae’r tîm arbenigol yma’n gweithio gyda’n myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth, y gofal llesiant a’r gynrychiolaeth y mae arnynt ei angen.

Undeb y Myfyrwyr

Mae Undeb Myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru yn cael ei redeg gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr. Mae’n lle i ymlacio a chael hwyl. Mae ganddo ei leoliad dynodedig ei hun yng nghanol y prif gampws, ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a chymdeithasau i chi eu mwynhau – ac i gyfarfod cyd-fyfyrwyr a ffrindiau.


Archwilio’r adran