Neidio i’r prif gynnwys

Cefnogaeth yn y Coleg: sut y gallwn ni eich helpu chi

Mae’r Coleg yn lle i bawb, ac rydym yn gweithio gyda chi i greu amgylchedd sy’n croesawu ac yn cefnogi pob un o’n myfyrwyr, beth bynnag eich gallu, cefndir, neu wahaniaethau. Dylai pawb gael yr un cyfle i ddysgu ac i gyflawni ei botensial ei hun.

Dweud wrthym sut y gallwn helpu

Mae ein tîm cefnogi myfyrwyr arbenigol a chyfeillgar, sy’n rhan o Wasanaethau Myfyrwyr, yma i helpu i wneud yn siŵr bod popeth y bydd arnoch ei angen yn CBCDC gennych o’r adeg y byddwch yn cyrraedd. 

Fel rhan o’ch pecyn croeso, byddwch yn derbyn holiadur meddygol. Dyma eich cyfle i ddweud wrthym am unrhyw gyflyrau corfforol neu feddyliol penodol sydd gennych neu i ddweud a ydych yn ystyried eich hun yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol.

Os byddwch yn llenwi’r holiadur yma ac yn dweud wrthym bod gennych gyflwr, byddwn yn cysylltu â chi. 

Cefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr

Mae cefnogaeth amrywiol iawn ar gael i’n myfyrwyr, a byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn dod o hyd i’r gefnogaeth orau ar gyfer eich gofynion penodol chi. 

Yn y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr mae gennym Swyddog Llais Myfyrwyr a fydd yn sicrhau eich bod yn cael eich cynrychioli a’ch clywed ledled y Coleg, gan helpu i gynrychioli myfyrwyr mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr. 

Mae aelodau’r tîm cefnogi arbenigol i gyd yn aelodau proffesiynol o gyrff perthnasol fel Dyslexia Action, PATOSS, Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal, a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Mae hyn yn golygu bod tîm cefnogi myfyrwyr y Coleg yn gallu darparu gwasanaethau Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn fewnol. 

Mae pob math o gefnogaeth ar gael, er enghraifft, cefnogaeth sgiliau astudio un i un, cefnogaeth mentor, cefnogaeth llesiant, cymorth llyfrgell, a darparu deunyddiau mewn fformat hygyrch.

‘Mae arnom eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cael cymaint ag sy’n bosibl o gefnogaeth ac ysbrydoliaeth yn ystod eich cyfnod yn astudio gyda ni.

Rydym yn sylweddoli bod gofynion pawb yn wahanol, felly mae arnom eisiau gweithio gyda chi er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu diwallu eich anghenion a thrwy hynny sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio ar astudio a bywyd myfyriwr heb orfod poeni am fynediad neu eich gallu i wneud eich astudiaethau.’
Kate WilliamsRheolwr Cefnogi Myfyrwyr

Cyllid Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

Mae cyllid ar gael er mwyn cael cefnogaeth, sef y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) os ydych yn derbyn benthyciad myfyrwyr ac yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth ar dudalennau DSA gwefan y llywodraeth. Gall gwneud cais am y cyllid hwn gymryd llawer o amser, felly mae’n bwysig dechrau’r broses cyn cychwyn yn CBCDC.

Os hoffech gael cymorth neu gyngor ynglŷn â gwneud cais am y DSA, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch ebost atom: student.services@rwcmd.ac.uk.

Gallant wneud trefniadau i chi gael gwneud cais drwy ebost neu drwy Microsoft Teams os yw hyn yn fwy addas i chi.

Gwybodaeth ddefnyddiol


Archwilio’r adran