

Cymorth meddygol a chefnogi lles
Mae gofalu amdanoch eich hun yn bwysig er mwyn cael profiad pleserus a chadarnhaol fel myfyriwr.
Cofrestru â meddyg
Caiff pob myfyriwr yn y Coleg ei annog i gofrestru â meddyg lleol neu Feddygfa yng Nghaerdydd cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd.
Drwy wneud hyn, os byddwch yn cael eich taro’n wael a bod angen i chi weld meddyg, gallwch wneud hynny’n gyflym heb orfod gwastraffu amser yn mynd drwy broses gofrestru.
Cymorth lles
Mae gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles yn un o’r agweddau pwysicaf ar fywyd myfyrwyr.
Y tîm Cefnogi Myfyrwyr yw tîm dynodedig ac arbenigol y Coleg ei hun. Mae’n darparu cefnogaeth a chyngor, ac yn gweithio mewn partneriaeth â’n myfyrwyr i’ch grymuso i gyflawni eich potensial tra byddwch yn astudio yn CBCDC.
Mae gan dîm Cefnogi Myfyrwyr berthnasoedd da â phartneriaid yn y GIG. Os oes arnoch angen rhagor o gefnogaeth drwy gydol eich astudiaethau, byddant yn gallu eich tywys drwy hyn. Mae un o nyrsys iechyd meddwl cymunedol y GIG yn ymweld â’r Coleg unwaith yr wythnos.
Gallwch alw heibio’r swyddfa Cefnogi Myfyrwyr i gael cymorth dynodedig yn ystod y tymor, felly os oes arnoch angen cefnogaeth, neu os hoffech gael sgwrs, galwch heibio i ddweud helô.
Cwnsela
Mae gwasanaeth cwnsela ar gael am ddim i bob myfyriwr, ac mae’n lle diogel i drafod unrhyw faterion neu broblemau sydd gennych ac i archwilio’r dewisiadau a’r opsiynau sydd ar gael i chi.
Gallwch ofyn i’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth pan fyddwch yn cyrraedd yma.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Bywyd myfyrwyr

Cynghorion da i fyfyrwyr newydd
