Neidio i’r prif gynnwys

Cynghorion da i fyfyrwyr newydd

Mae cychwyn eich siwrnai yn y coleg yn amser cyffrous sy’n llawn cyfleoedd, twf, a phrofiadau newydd. Ond gall hefyd fod yn gyfnod pryderus. Rydych yn camu i fyd cwbl newydd, ac mae’n normal i deimlo’n ansicr neu allan o’ch lle. Y newyddion da? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Mae’n cymryd amser i setlo. Mae dysgu yn fater o wneud camgymeriadau, ac mae gweld colli eich cartref tra ydych yn adeiladu eich bywyd newydd yn iawn. Mae’r 9 awgrym yma wedi’u cynllunio er mwyn eich helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas y bennod gyffrous hon yn hyderus gan fod yn garedig tuag atoch eich hun.

Rydych yn haeddu bod yma

Cofiwch na wnaethon nhw gamgymeriad. Rydych yn haeddu bod yma yn y Coleg. Dydych chi ddim wedi twyllo neb. Rhowch amser a chyfle i chi eich hun berthyn. Rydych yn haeddu bod yma.

Rhowch amser i chi eich hun

Rhowch amser i chi eich hun setlo. Peidiwch â disgwyl teimlo’n gwbl gartrefol ar ôl yr wythnos gyntaf. Rhowch amser i chi ddod i arfer â’ch cartref newydd, eich ffrindiau newydd a’ch dinas newydd, a chael eich traed danoch.

Dyw eich gwaith chi ddim yn eich diffinio chi

Ceisiwch gofio nad yw eich gwaith yn eich diffinio chi. Fe gewch feirniadaeth (a rhywfaint o adborth cadarnhaol gobeithio) ond bwriad hyn yw eich helpu i ddysgu, felly ceisiwch beidio â chymryd pethau’n rhy bersonol. Mae dysgu yn ymwneud â gallu goddef y rhwystredigaeth o beidio â gwybod rhywbeth.

Mae hiraethu am adref yn normal

Mae gweld eisiau eich cartref, eich teulu a’ch ffrindiau yn deimlad cwbl normal. Mae cadw mewn cysylltiad yn bwysig, i’r rhan fwyaf o bobl, ond mae’n syniad da ceisio peidio â dibynnu’n ormodol ar eich cysylltiadau cartref, gan y gallech golli’r cyfle i ddod o hyd i berthnasoedd newydd yma.

Ceisiwch sefydlu patrwm rheolaidd

Ceisiwch greu rhywfaint o strwythur i’ch gwaith. Efallai y byddwch am ddrafftio amserlen glir ond hyblyg ar gyfer yr wythnos sydd hefyd yn caniatáu i chi roi’r gorau i weithio a mwynhau eich hun.

Rydych chi’n ddigon da

Caniatewch i’ch hun fod yn ‘ddigon da’ yn eich celfyddyd, eich gwaith academaidd ac mewn agweddau eraill ar eich bywyd. Cofiwch eich bod yma i ddatblygu a dysgu, ac y gall ceisio cael popeth yn iawn fod yn wrthgynhyrchiol. Cofiwch fod anelu at ragoriaeth yn wahanol i feddwl bod yn rhaid i chi fod yn berffaith. Er mwyn anelu at ragoriaeth mae angen i chi fentro, gwneud camgymeriadau a dysgu ohonynt.

Mae’n iawn i deimlo’n bryderus

Cofiwch y bydd pawb yn bryderus i wahanol raddau am wahanol bethau. Nid chi yw’r unig yn sy’n teimlo fel hyn. Ceisiwch fod yn garedig â chi eich hun.

Gofalwch am eich iechyd corfforol

Mae gofalu amdanoch eich hun yn gorfforol yn ogystal ag yn feddyliol mor bwysig. Cwsg da (a digon ohono), bwyta, rhywfaint o ymarfer corff a rhywfaint o gydbwysedd o ran eich ffordd o fyw yw’r sylfeini ar gyfer llwyddiant.

Os oes arnoch angen help, gofynnwch amdano bob amser

Os hoffech siarad â rhywun am sut rydych chi’n teimlo, gwnewch hynny. Peidiwch ag oedi. Mae’n debyg y byddwch yn dod o hyd i ffrindiau y gallwch siarad â nhw. Peidiwch â bod ofn dechrau agor eich hun i bobl wrth i chi ddod i’w hadnabod.

Gallwch hefyd gysylltu â Phrofiad Myfyrwyr unrhyw bryd os hoffech siarad ag aelod o’r tîm cymorth: student.services@rwcmd.ac.uk.

Addaswyd o: Oxford University (2018) Eleven Top Tips for Freshers


Archwilio’r adran