

Eich wythnos gyntaf yn y Coleg
Yn ystod eich wythnos gyntaf yma byddwch yn dod i adnabod y campws, ac yn dod i wybod am yr adnoddau a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi wrth i chi ddechrau eich astudiaethau. Erbyn diwedd yr wythnos, byddwch yn barod i ddechrau ar eich astudiaethau â hyder ac ysbrydoliaeth.
Dod i adnabod y Coleg
O’r eiliad y byddwch chi’n cyrraedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn ymgolli yn awyrgylch bywiog y Coleg. Rydyn ni’n gwybod bod dechrau yn rhywle newydd yn gallu teimlo’n llethol, felly rydyn ni wedi cynllunio amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau i’ch helpu i ymgartrefu. Bydd y rhain yn cyflwyno gwybodaeth hanfodol i chi, yn eich tywys drwy brosesau allweddol, ac yn bwysicaf oll, yn rhoi cyfle i chi gwrdd â’ch cyd-fyfyrwyr.
Dyma Simon Reeves, Pennaeth Dysgu ac Addysgu, a Tiggy Blackwell, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, yn estyn croeso cynnes i chi gan sôn am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod eich wythnos gyntaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru:
‘Mae eich wythnos gyntaf yn fater o gymryd perchnogaeth dros eich dysgu a’ch rôl yng nghymuned y Coleg. Rydyn ni wedi cynllunio sesiynau i’ch cefnogi i bontio i addysg uwch, sy’n ymdrin â llesiant, cydweithio a ble i ddod o hyd i gymorth.
Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau creadigol gyda myfyrwyr o feysydd fel cerddoriaeth, drama a rheoli. Mae’n ffordd wych o ddechrau ar eich taith greadigol yn y Coleg. Edrychwn ymlaen at eich gweld!’Simon ReevesPennaeth Dysgu ac Addysgu
‘Rydyn ni yma i’ch helpu i setlo, o deithiau o amgylch y campws i Ffair y Glas, lle gallwch ddysgu mwy am gymdeithasau myfyrwyr a chyfleoedd gwaith achlysurol. Cewch gyfle i gwrdd â thiwtoriaid eich cwrs, cyd-fyfyrwyr, staff a rhai o’n graddedigion.
Os ydych chi’n symud i mewn i'r neuadd breswyl, bydd tîm Undeb y Myfyrwyr yno i gwrdd â chi i roi bagiau nwyddau i chi gyda gwybodaeth am fyw yng Nghaerdydd, bod yn fyfyriwr ac ambell i beth arbennig i’ch croesawu.
Byddwn hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer pob myfyriwr. Bydd rhywbeth at ddant pawb, o nosweithiau cerddoriaeth fyw i nosweithiau crefft hamddenol.
Edrychwn ymlaen yn arw at eich croesawu chi i’r Coleg!’Tiggy BlackwellLlywydd Undeb y Myfyrwyr
Eich amserlen
Bydd yr amserlenni ar gyfer sesiynau cofrestru a chynefino yn barod ar ASIMUT wythnos cyn i’r tymor ddechrau er mwyn i chi allu gwneud cynlluniau ymlaen llaw. Bydd eich amserlen ar gyfer y tymor ar gael ar ASIMUT ar ddechrau’r tymor.
Os ydych yn chwilio am fanylion eich cwrs, bydd holl ddogfennau’r maes llafur ar gael ar Moodle, ein system rheoli cyrsiau ar-lein, i’ch helpu i fod yn drefnus ac yn barod.
Ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd, bydd eich amserlen ar gael ar ASIMUT yr wythnos cyn dechrau’r tymor.
Diwrnod cofrestru
Rhowch nodyn ar eich calendr! Byddwch yn cofrestru ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs. Byddwch wedi cael ebost yn nodi dyddiad eich diwrnod cyntaf, ond gallwch weld holl ddyddiadau’r tymor ar ein gwefan.
Eich cerdyn adnabod CBCDC
Os gwnaethoch gyflwyno eich llun ar gyfer cerdyn adnabod y Coleg mewn pryd wrth gofrestru ar-lein, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod ar y diwrnod cyntaf. Cofiwch ddod â rhyw fath o ddogfen adnabod â llun arni er mwyn casglu eich cerdyn!
Os nad ydych yn gallu dod, peidiwch â phoeni. Bydd angen i chi gysylltu ag admissions@rwcmd.ac.uk i drefnu apwyntiad i’w gasglu yn nes ymlaen o swyddfeydd y Gwasanaethau Academaidd ar y llawr cyntaf ym mhrif gampws CBCDC.
Cael mynediad at adnoddau ar-lein
Os oes arnoch angen unrhyw help, bydd aelodau o’r timau Derbyn, Cyllid, Gweinyddiaeth Academaidd, Gwasanaethau Myfyrwyr a’r Gofrestrfa ar gael i helpu ag ymholiadau cofrestru ar eich diwrnod cyntaf.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i ddechrau eich cwrs drwy edrych ar y tudalennau a ganlyn:

Cyllid myfyrwyr

Cofrestru ar-lein

Rhestr wirio i ddechreuwyr

Cynghorion da i fyfyrwyr newydd

Eich cerdyn adnabod yn y Coleg
