Neidio i’r prif gynnwys

Cofrestru ar-lein

Mae dwy dasg ar-lein y bydd angen i chi eu cwblhau cyn y gallwch gychwyn eich astudiaethau yn CBCDC.

Tasgau cofrestru ac ymrestru

Y dasg gyntaf yw cofrestru ar-lein, sy’n eich gwneud yn un o fyfyrwyr CBCDC yn swyddogol.

Yr ail dasg yw ymrestru ar-lein, proses flynyddol lle byddwch yn cadarnhau / adnewyddu eich manylion ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Tasg 1: Cofrestru ar-lein

Ar gyfer y dasg hon, byddwn yn anfon ebost i’ch cyfeiriad ebost personol a fydd yn cynnwys rhestr o’r dogfennau y mae arnom eu hangen. 

Bydd angen i chi lanlwytho’r rhain drwy’r platfform Acceptd

Mae’r dogfennau y mae arnom eu hangen gennych fel arfer yn cynnwys:

Tasg 2: Ymrestru ar-lein

Gallwch ymrestru ar-lein wythnos cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, a chaiff manylion eu hanfon i’ch cyfeiriad ebost Coleg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r broses cyn y dyddiad cau. Caiff dolenni i ddogfennau allweddol, gan gynnwys rheoliadau a pholisïau ariannol, eu darparu fel rhan o’r dasg er gwybodaeth i chi.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn cwblhau’r broses gofrestru ac ymrestru?

Ni fyddwch wedi eich cofrestru’n swyddogol fel myfyriwr yn CBCDC nes byddwch wedi cwblhau’r broses gofrestru a’r broses ymrestru.

Os na fyddwch wedi cwblhau’r broses ymrestru, ni fyddwch yn gymwys i fynd i ddosbarthiadau na chael mynediad at wasanaethau fel tystysgrifau treth gyngor neu lythyrau cadarnhau astudio. 

Bydd peidio â chwblhau’r dasg gofrestru neu’r dasg ymrestru ddilynol erbyn diwrnod cyntaf y tymor yn arwain at oedi cyn talu eich benthyciad myfyriwr. 

Sylwer: Ni all CBCDC gadarnhau eich bod wedi cofrestru wrth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) cyn diwrnod cyntaf y tymor. Ar ôl cael cadarnhad eich bod wedi cofrestru, bydd SLC fel arfer yn prosesu taliadau i fyfyrwyr cyn pen tri i bum diwrnod gwaith.

Gwybodaeth ddefnyddiol


Adran archwilio