

Eich cerdyn adnabod yn y Coleg
Eich cerdyn adnabod yw eich cerdyn CBCDC personol a bydd arnoch ei angen i gael mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau’r campws, fel defnyddio’r llungopiwyr a’r argraffwyr neu archebu ystafelloedd ymarfer.
Lanlwytho eich llun
I gael eich cerdyn adnabod yn barod, cwblhewch y broses gofrestru a lanlwythwch lun cyn gynted ag y gofynnir i chi wneud hynny yn yr ebost. Ni allwn wneud eich cerdyn adnabod nes byddwn wedi cael llun addas gennych.
Casglu eich cerdyn adnabod
Os ydych wedi cyflwyno eich llun mewn pryd fel rhan o’r broses gofrestru ar-lein, a bod gennych ddogfen adnabod ddilys â llun arni gyda chi, gallwch gasglu eich cerdyn adnabod yn y Coleg ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Cofiwch ddod â dogfen adnabod â llun arni gyda chi er mwyn casglu’r cerdyn!
Os nad ydych yn gallu dod i gasglu’r cerdyn, peidiwch â phoeni – bydd angen i chi gysylltu ag admissions@rwcmd.ac.uk i drefnu apwyntiad i’w gasglu yn nes ymlaen o swyddfeydd y Gwasanaethau Academaidd ar lawr cyntaf prif gampws CBCDC.
Myfyrwyr gradd sylfaen
Os gwnaethoch gyflwyno eich llun ar gyfer eich cerdyn adnabod mewn pryd fel rhan o’r broses gofrestru ar-lein, bydd eich cerdyn yn barod i’w gasglu o gampws Stiwdios Llanisien ar ddiwrnod cyntaf y tymor.
Dylech gasglu’r cerdyn pan fyddwch yn dod i mewn ar gyfer y gweithgareddau cynefino ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Bydd angen i chi gysylltu ag admissions@rwcmd.ac.uk i drefnu apwyntiad i’w gasglu yn nes ymlaen.

Eich wythnos gyntaf yn y Coleg

Cynghorion da i fyfyrwyr newydd

Rhestr wirio i ddechreuwyr

Gwybodaeth am y cwrs

Bywyd myfyrwyr
