Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Llety: ble i fyw tra byddwch yn astudio yn CBCDC

P’un a ydych ar eich blwyddyn gyntaf neu eich blwyddyn olaf, mae dod o hyd i rywle i fyw bob amser yn flaenoriaeth. Rydym wedi casglu ychydig o wybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i’r lle perffaith i allu mwynhau bywyd yng Nghaerdydd.

Lleoliad, lleoliad, lleoliad

I’ch helpu i gynllunio ble i fyw – mae gennym wahanol adeiladau ar y campws y gallech eu defnyddio yn ystod eich cyfnod yn y Coleg. Y ddau brif adeilad yw:

Ein prif adeilad ar Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER a

Stiwdios Llanisien, Parc Busnes Caerdydd, 45 Cilgant Lambourne, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG.

Mae ein neuadd breswyl ddynodedig yn Severn Point, tua 12 munud ar droed o’r Coleg, i fyny Heol y Gogledd. 

Os ydych yn dymuno rhentu llety preifat, rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio yn ardaloedd cyfagos Cathays a’r Rhath, sydd â chymunedau myfyrwyr go iawn.   

Dyma’r ardaloedd mwyaf poblogaidd ar gyfer llety myfyrwyr, ac mae llawer o wahanol opsiynau ar gael i chi.  

Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol ar draws y ddinas ar fysiau a threnau, ond oherwydd bod Caerdydd yn ddinas fach, mae’r rhan fwyaf o’r lleoedd aros o fewn pellter cerdded i’r Coleg. 

Newyddion diweddaraf