Neidio i’r prif gynnwys

Cadw'n ddiogel

Mae bod yn ddiogel, yn iach, ac yn gartrefol tra byddwch yn astudio yn bwysig, ac mae arnom eisiau i’ch cyfnod yn y Coleg fod yn un pleserus a diogel, sy’n cyfoethogi eich profiad cyflawn fel myfyriwr.

Mae Caerdydd yn ddinas ddiogel a chroesawus sy'n rheolaidd yn cyrraedd y brig mewn arolygon sy'n mesur ansawdd bywyd a diwylliant. Er hyn, i’r rhai hynny sy’n newydd i fyw oddi cartref, rydyn ni a’n partneriaid yn Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd yn argymell defnyddio ychydig o synnwyr cyffredin er mwyn diogelu eich hun a’ch gwneud yn llai agored i unrhyw droseddau posibl.

Dyma ychydig o wybodaeth ynglŷn â chadw’n ddiogel yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr yng Nghaerdydd.

Diogelwch yn eich cartref myfyrwyr

Yn aml iawn, mae llety myfyrwyr yn cynnwys mwy o eiddo na chartrefi teuluol arferol, sy’n golygu ei fod yn darged atyniadol i ladron. Dyma rai awgrymiadau hawdd er mwyn cadw eich man aros yn ddiogel:

Ble bynnag rydych yn byw, gwnewch yn siŵr bod gennych yswiriant addas ar gyfer eich eiddo ac ewch ag eitemau gwerthfawr gartref yn ystod y gwyliau. Mae lladron yn fwy parod i ddefnyddio grym i fynd i mewn gan nad oes llawer o bobl o gwmpas i’w gweld a’u clywed.

Diogelwch ar y campws

Mae’r Coleg, yn enwedig y prif gyntedd, ar agor i’r cyhoedd, sy’n golygu ei bod yn hawdd i rywun sy’n gweld ei gyfle gael mynediad at eiddo nad oes neb yn gofalu amdano. Hyd yn oed mewn ardaloedd cyfyngedig, os bydd rhywun yn dal y drws ar agor iddo.

  • Peidiwch byth â gadael eitemau mewn man lle nad oes rhywun yn gofalu amdanynt. Lladrata eiddo nad oes rhywun yn gofalu amdano yw’r drosedd fwyaf cyffredin ar y campws, a dyma’r un hawsaf i’w hatal.
  • Peidiwch â dibynnu ar systemau mynediad – dyw cardiau sweipio a chodau ddim ond yn gweithio os ydych chi’n ofalus. Peidiwch â dal drysau ar agor i bobl nad ydych yn eu hadnabod, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cloi/cau drysau bob amser pan fyddwch yn gadael.

Diogelwch ar y strydoedd

Gall cerdded ar eich pen eich hun, yn enwedig yn y nos, deimlo’n frawychus, ond gall yr awgrymiadau hyn eich helpu i gadw’n ddiogel a lleihau’r risg o droseddau: 

  • Cadwch eitemau gwerthfawr o’r golwg. Peidiwch â hysbysebu eich eiddo - cuddiwch eich waled, ffôn, neu offer drud.
  • Peidiwch â chadw pethau yn eich poced ôl. Maen nhw’n amlwg i unrhyw un sy’n cerdded y tu ôl i chi, a dyma un o’r mannau hawsaf i ddwyn ohono hefyd.
  • Byddwch yn wyliadwrus pan fyddwch yn defnyddio eich ffôn. Os oes angen i chi ddefnyddio eich ffôn, arhoswch a safwch â’ch cefn at wal er mwyn i chi allu bod yn ymwybodol o bethau o’ch cwmpas.
  • Cariwch larwm ymosodiad personol – mae’r larymau hyn yn ddefnyddiol i bawb. Byddwch yn ymwybodol, byddwch yn barod, a chymerwch gamau syml i ddiogelu eich hun a’ch eiddo.

Cadw'n ddiogel ar noson allan

Sbeicio diod

Mae sbeicio diod yn fater difrifol sy’n achosi pryder cynyddol. Mae sylweddau’n cael eu hychwanegu’n ddirgel at ddiodydd â’r bwriad o niweidio neu amharu ar y person sy’n eu hyfed. Gall diodydd wedi’u sbeicio ag alcohol neu gyffuriau wneud unigolyn yn agored iawn i niwed, a gall y drosedd arwain at ddedfryd o hyd at 10 mlynedd o garchar yn y DU.

Gall y canllaw hwn eich helpu i adnabod symptomau sbeicio diod er mwyn i chi allu gweithredu yn gyflym i’ch helpu chi eich hun neu bobl eraill.


Archwilio’r adran