Neidio i’r prif gynnwys

Setlo

Gall dechrau bywyd newydd mewn gwlad wahanol fod yn antur gyffrous, ond mae'n naturiol i chi deimlo ychydig yn bryderus wrth addasu i ddiwylliant newydd. Gall deall beth i'w ddisgwyl a gwybod sut i ofalu amdanoch eich hun wneud y broses lawer yn haws.

Addasu i fywyd mewn diwylliant newydd

Pan fyddwch chi'n symud i'r DU, efallai y byddwch yn profi emosiynau amrywiol wrth i chi setlo. Mae cyfres o gamau i'r broses hon yn aml, gan ddechrau ag ymdeimlad cychwynnol o gyffro wrth i chi archwilio amgylchoedd newydd, ac wedyn heriau dros dro fel hiraethu am gartref neu wahaniaethau diwylliannol. Dros amser, wrth i chi ymgyfarwyddo a dod yn fwy hyderus yn eich amgylchoedd newydd, bydd y teimladau hyn yn troi i fod yn synnwyr o gysur a pherthyn, gan eich galluogi i gofleidio diwylliant y DU yn ogystal â'ch hunaniaeth eich hun.

Cymryd rhan mewn bywyd fel myfyriwr

Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn rhan greiddiol o fywyd myfyrwyr ac yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd i'ch helpu i gysylltu ag eraill. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o gymdeithasau i ymuno â nhw, ac os na welwch chi un sydd o ddiddordeb i chi, fe allwch chi hyd yn oed ffurfio eich cymdeithas eich hun. Uchafbwynt yn ystod eich wythnos gyntaf yw digwyddiad 'rhannu eich diwylliant a'ch bwyd' gan Undeb y Myfyrwyr, sy'n gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau.

Dilynwch Undeb y Myfyrwyr ar Instagram (@royalwelshsu) ac ymunwch â'r RWSU Forum ar Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf. I gael rhagor o fanylion a chwrdd â thîm Undeb y Myfyrwyr, ewch i dudalen we Undeb y Myfyrwyr.

Rhaglen Groeso i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Caiff myfyrwyr yr opsiwn hefyd i gymryd rhan yn y Rhaglen Groeso i Fyfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r rhaglen hon wedi'i dylunio i helpu myfyrwyr rhyngwladol i setlo i'w bywyd yn y DU, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a chymorth i hwyluso'r profiad.

Archwilio cymdeithasau yng Nghaerdydd

Gall myfyrwyr CBCDC ymuno â chymdeithasau Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnwys amrywiaeth o grwpiau sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol. Cewch ymuno â rhai yn rhad ac am ddim, a bydd angen talu tâl aelodaeth i ymuno ag eraill. Dyma restr lawn o'r cymdeithasau.

Mae Caerdydd a Chymru hefyd yn gartref i sawl cymdeithas ryngwladol, gan gynnwys:

Mae'r sefydliadau hyn yn ffordd wych i gwrdd â phobl, dathlu eich diwylliant, a chysylltu â chymunedau lleol.

Cyngor ar setlo

Mae addasu i ddiwylliant newydd yn cymryd amser, ond mae yna ddigonedd o ffyrdd i hwyluso'r broses:

  • Cadw cyswllt ag adref – Cadwch mewn cyswllt â'ch teulu a'ch ffrindiau a dewch ag ambell beth i'ch cysuro a'ch atgoffa fel lluniau neu eich hoff snac. 
  • Cymryd gofal o'ch lles – Bwytewch ddiet cytbwys, gwnewch ymarfer corff, a neilltuwch amser i ymlacio. Ymunwch â chlybiau neu gymdeithasau, a dewch o hyd i grwpiau a all eich helpu i adeiladu ymdeimlad o gymuned.
  • Gwneud cysylltiadau newydd – Gall cwrdd â myfyrwyr rhyngwladol eraill eich helpu i deimlo'n fwy cartrefol. Bydd rhannu profiadau a dysgu gan eraill yn helpu i hwyluso'r broses.
  • Ymarfer eich sgiliau iaith – Gall siarad mewn iaith anfrodorol deimlo'n chwithig i ddechrau, ond cofiwch y bydd llawer o fyfyrwyr yn yr un sefyllfa ac yn hapus i ymarfer gyda chi. Ceisiwch ymdrochi yn y Saesneg drwy wylio rhaglenni teledu, gwrando ar bodlediadau, a dechrau sgyrsiau. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein cwrs 10 wythnos cyn-sesiynol i ddatblygu hyder cyn i'ch astudiaethau gychwyn.
  • Gofyn am gymorth – Mae'r Coleg yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i hybu eich lles. Os ydych yn eich chael yn anodd setlo, da chi cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr – gall siarad gyda rhywun wneud gwahaniaeth mawr.

Cofiwch, peth dros dro yw hyn

Mae teimlo'n ansefydlog yn rhan naturiol o addasu i amgylchoedd newydd, ac nid yw'n para am byth. Drwy gofleidio'r profiad a gofyn am gymorth pan fo angen, byddwch yn teimlo'n hyderus ac yn gyfforddus yn eich amgylchoedd newydd mewn dim o dro.

Gwasanaethau Myfyrwyr

Yma i'ch helpu i gael yr amser gorau yn CBCDC. Mae ein tîm Cefnogi Myfyrwyr yn chwarae rôl allweddol wrth wneud i hyn ddigwydd. Gall symud i ffwrdd o gartref fod yn amser heriol. Mae'r tîm arbenigol hwn yn gweithio gyda'n myfyrwyr i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r gefnogaeth, y lles a'r gynrychiolaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Deunydd darllen pellach

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar sut i deimlo'n fwy cartrefol, cymerwch olwg ar y gwefannau canlynol


Adran archwilio