Perfformiadau ac ysgolion haf
Mae ein neuadd gyngerdd a theatrau o’r radd flaenaf yn fannau poblogaidd i’w llogi ar gyfer digwyddiadau perfformio a chystadlaethau. Gadewch i ni eich croesawu.
Eich digwyddiad yn CBCDC
Mae ein neuadd gyngerdd o fri a’n theatrau cyfoes yn cael eu llogi ar gyfer cystadlaethau cerddorol, cyngherddau cerddorfaol, datganiadau opera, perfformiadau drama a sioeau cerdd, wedi’u cynhyrchu gan Gerddor Ifanc y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd, Only Boys Aloud, Theatr Genedlaethol Cymru a Kinetic. Bob blwyddyn, rydym yn cynnal ysgolion haf i fudiadau fel Elusen Aloud ac Ysgol Haf Genedlaethol UK Jazz.
Neuadd Dora Stoutzker
Neuadd Dora Stoutzker (400 sedd), gyda’i hacwsteg wych, yw’r unig neuadd bwrpasol ar gyfer datganiadau cerddoriaeth siambr yng Nghymru. Gyda’i gwaith pren euraidd a’i balconi uwch, mae’r neuadd yn cofleidio’r gynulleidfa o gwmpas y perfformwyr, gan greu profiad clos sy’n cael ei rannu gan y cerddorion a’r gynulleidfa fel ei gilydd.
Theatr Richard Burton
Mae Theatr Richard Burton (180 sedd) wedi’i henwi ar ôl un o actorion mwyaf Cymru. Mae’r tu mewn fioled tywyll yn toddi ymaith, gan adael y gynulleidfa’n canolbwyntio ar y perfformiad. Gyda’r cyfleusterau diweddaraf sy’n cynnwys tŵr hedfan, mae’r theatr siâp pedol gyfoes yn sicrhau’r berthynas agosaf posib rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr
Theatr Bute
Mae'r lleoliadau hyn yn cael eu hategu gan theatr blwch du Theatr Bute (160 yn eistedd / 300 yn sefyll) ac amrywiaeth o stiwdios ymarfer golau ac ystafelloedd ymarfer gyda phianos Steinway.
Beth mae pobl yn ei ddweud amdanom ni
Cefnogaeth gan ein tîm
Cewch gefnogaeth ein tîm cynhyrchu, a fydd yn darparu gwasanaeth cynllunio proffesiynol, cefnogaeth dechnegol brofiadol ac arbenigol a gofal cwsmeriaid croesawus i chi. Gellir trefnu pecynnau cyhoeddusrwydd a thocynnau hefyd, a bydd ein staff blaen tŷ cyfeillgar yn croesawu’ch cynulleidfaoedd a’ch cyfranogwyr i’n cyntedd atriwm gwydr trawiadol, caffi a bar a theras awyr agored sy’n edrych allan ar brydferthwch rhestredig Gradd 1 Parc Bute. Byddant mewn cwmni da.