

Llogi perfformwyr
Fel un o ddim ond naw conservatoire cerddorol arbenigol yn y DU, mae ein cerddorion ymysg doniau newydd gorau’r wlad. Gall ein staff profiadol gynghori ar ba berfformwyr sy’n addas i’ch digwyddiad, a byddwn yn gwneud ein gorau i deilwra’r gerddoriaeth i gyd-fynd â’r achlysur.
Trawsnewidiwch eich achlysur
O briodasau i gynadleddau, o gyngherddau i ddigwyddiadau thematig, gall ên perfformwyr dawnus drawsnewid yr achlysur. Fel un o ddim ond naw conservatoire cerddorol arbenigol yn y DU, mae ein cerddorion ymysg doniau newydd gorau’r wlad.
Mae pob un yn paratoi ar gyfer gyrfa fel perfformiwr proffesiynol, felly byddwch yn llogi’r unigolion ifanc a brwdfrydig gorau ar gyfer eich achlysur arbennig, a pherfformwyr sydd hefyd yn llawn ymroddiad ac angerdd am eu proffesiwn.
Sut mae'n gweithio
Gall ein staff profiadol gynghori ar ba berfformwyr sy’n addas i’ch digwyddiad, a byddwn yn gwneud ein gorau i deilwra’r gerddoriaeth i gyd-fynd â’r achlysur.
Dewisir yr holl berfformwyr ar gyfer digwyddiadau allanol yn dilyn clyweliad. Am ragor o wybodaeth am ein perfformwyr cyfredol, e-bostiwch musicians@rwcmd.ac.uk neu ffoniwch 029 2039 1402.
Tysteb
'Diolch yn fawr am helpu i wneud neithiwr yn noson mor wych. Roedd popeth yn fendigedig, ac fel y gwyddom, mae’r fath lwyddiant yn golygu llawer o waith yn y cefndir. Ni allai’r staff oedd ar ddyletswydd fod wedi gwneud mwy, roedden nhw mor gymwynasgar a dymunol...a’r perfformwyr – am dalent!'Rhaglawiaeth Morgannwg GanolTrefnydd