Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb Myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru yn lle i ymlacio, dadflino a chael hwyl. Mae ganddo ei le pwrpasol ei hun yng nghanol y prif gampws ac mae amrywiaeth o weithgareddau a chymdeithasau i’w mwynhau.
Eich Undeb
O gynnal nosweithiau cymdeithasau, cerddoriaeth fyw bob nos Iau, a chwis wythnosol, i fod yn lle i fwyta’ch cinio a chael paned gyda’ch ffrindiau, mae'r Undeb yn lle diogel i’n HOLL fyfyrwyr.
Sut ydyn ni'n gwneud hyn?
Diben yr undeb yw hybu addysg myfyrwyr er budd cyhoeddus.
Pwrpas yr undeb yw hybu addysg myfyrwyr er budd y cyhoedd. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy’r ffyrdd canlynol:
- Hyrwyddo buddiannau a lles myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau, a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr.
- Bod yn sianel gynrychiadol gydnabyddedig rhwng Myfyrwyr a'r Coleg, ynghyd ag unrhyw gyrff allanol eraill.
- Darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden, fforymau ar gyfer trafodaethau a dadleuon ar gyfer datblygiad myfyrwyr.
- Meithrin ac annog rhyddid i lefaru, cymryd camau i annog a datblygu cymuned o fyfyrwyr sy’n dathlu amrywiaeth ei haelodau.
Mae holl fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn aelodau o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig, oni bai eu bod yn dewis cymryd camau ffurfiol i beidio â bod yn aelod.
Cymuned
Mae bod yn fyfyriwr ar gwrs gwych mewn conservatoire penigamp yn hollbwysig: ond mae hefyd bwysig yn manteisio ar yr holl gyfleoedd a ddaw i’ch rhan tra ydych chi’n fyfyriwr.
Er mai eich cwrs y byddwch chi’n canolbwyntio arno’n bennaf (gobeithio!), mae hefyd yn hanfodol eich bod yn gallu mwynhau digwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â’ch cwrs. Yma yn Undeb y Myfyrwyr, rydyn ni’n credu bod gweithio’n galed yn talu ar ei ganfed, ond mae’r un mor bwysig gallu mwynhau eich amser hamdden i ffwrdd o’ch cwrs.
Efallai y byddwch chi’n dymuno chwarae i’n clybiau chwaraeon, cymryd rhan mewn dosbarth ffitrwydd, ymuno â chymdeithasau, neu gymryd rhan yn y gwaith o drefnu gwyliau a pherfformiadau myfyrwyr – beth bynnag a wnewch, byddwch chi’n cymryd rhan mewn profiad myfyrwyr cyfannol ac yn ychwanegu gwerth at eich amser yma.
Cymdeithasau
Mae gan Undeb Myfyrwyr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama lawer iawn o gymdeithasau i chi ymuno â nhw, o’r Gymdeithas Bêl-droed i'r Gymdeithas Karaoke a phopeth yn y canol.
Mae cymdeithasau yn ffordd wych o roi cynnig ar rywbeth newydd a chymysgu â phobl o’r coleg cyfan, nid eich adran chi yn unig. Mae rhai cymdeithasau wedi bodoli ers blynyddoedd ac wedi dod yn draddodiad... fel y tîm pêl-droed a’u gêm myfyrwyr yn erbyn gyn-fyfyrwyr flynyddol, a dosbarthiadau ffitrwydd wythnosol.
Gyda dros 800 o fyfyrwyr, dydyn ni ddim yn Undeb Myfyrwyr mawr, ond rydyn ni’n gefnogol iawn ac yn awyddus i ddarparu ar gyfer eich diddordebau. Mae detholiad o’r cymdeithasau rydyn ni’n eu cefnogi ar hyn o bryd i’w weld isod. Os oes gennych chi unrhyw syniadau ac nad ydych chi’n gweld rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i chi, dewch draw am sgwrs – rydyn ni yma i’ch helpu.