Vanessa David
Tiwtor Feiolin
Rôl y swydd: Is-lywydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Rwy’n fyfyriwr Piano Jazz BMus, ac wrth fy modd i fod yn Is-lywydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd i chi. Fy rôl yw cynrychioli myfyrwyr lleiafrifol, gan gynnwys pobl o liw, myfyrwyr LGBTQ+, unigolion anabl a siaradwyr Cymraeg. Rwy’n angerddol ynglŷn â gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u clywed.
Pan nad ydw i’n chwarae jazz, gallwch ddod o hyd i mi yn canu mewn corau, yn ysgrifennu caneuon neu’n mwynhau fy hoffter o theatr. Rydw i hefyd yn bobydd gweddol dda ac yn ddringwr brwd! Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â’r rôl hon, gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny.