Julia Plaut
Tiwtor Basŵn/Basŵn Baróc
Rôl y swydd: Athro y Llais, Tiwtor Opera
Adran: Llais
Anrhydeddau: GGSM ac FGS
Ganwyd Adrian Thompson yn Llundain a chafodd ei addysgu yn Ysgol Wandsworth lle y daeth i gyswllt am y tro cyntaf â Benjamin Britten a Peter Pears fel aelod o gôr enwog yr ysgol wladol. Astudiodd ymhellach yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall lle bu’n astudio gyda Duncan Robertson. Yn 17 oed, dechreuodd Adrian astudio gydag Ian Partridge ac mae ei ddyled yn fawr iddo hyd heddiw.
Mewn gyrfa o dros ddeugain mlynedd, mae Adrian wedi canu gyda llawer o gwmnïau opera a cherddorfeydd yn y Deyrnas Unedig a thramor, gan gynnwys gydag Opera Cenedlaethol Cymru, English National Opera, Royal Opera House, Frankfurt, Darmstadt, Strasbourg, La Scala Milan, Opera’r Iseldiroedd a’r Canadian Opera Company.
Mae’r perfformiadau diweddar yn cynnwys House of the Dead (Janacek) yn Savonlinna a Brno yng ngŵyl Janacek. Eisslinger (Die Meistersinger) Glyndebourne, Monostatos Scottish Opera, Emperor (Turandot) Toronto.
Gwnaeth Adrian hefyd ganu datganiad i nodi pen-blwydd Britten gyda Michael Pollock yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fis Tachwedd y llynedd. Mae ei berfformiadau yn y dyfodol yn cynnwys The Ring yn yr Almaen a Llundain gyda’r London Philharmonic Orchestra a The Maid of Pskov yn Grange Park.
Gwnaeth lawer o recordiadau gan gynnwys casgliad o ganeuon Schubert gyda Graham Johnson. Mae Adrian hefyd wedi recordio On Wenlock Edge gan Vaughan Williams a The Curlew gan Peter Warlock. Gweithiodd Adrian gyda llawer o arweinwyr adnabyddus gan gynnwys Bernard Haitink, Carlo Rizzi, Colin Davis a Vladimir Jurowski