Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Suzanne Carter

Rôl y swydd: Arweinydd modiwl Datblygu Cynulleidfa a Chyfathrebu

Adran: Rheolaeth yn y Celfyddydau

Bywgraffiad

Ymgynghorydd marchnata llawrydd yw Suzanne sydd wedi bod yn gweithio ym maes marchnata celfyddydau, diwylliannol a digwyddiadau ers dros 25 mlynedd. Yn newyddiadurwr cymwysedig ac yn Farchnatwr Siartredig, mae Suzanne yn feddyliwr strategol creadigol sy’n dod â’i harbenigedd marchnata i’r modiwl o’i phrofiad yn datblygu strategaethau marchnata, brandio, ymgyrchoedd a chyflwyno gweithgareddau gyda sefydliadau bach a mawr ledled Cymru a Lloegr. Bu Suzanne yn Rheolwr Marchnata Cyngor Blaenau Gwent, Theatr y Sherman, ac yn Gyfarwyddwr Marchnata Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Fel gweithiwr llawrydd mae hi wedi gweithio gyda CDCCymru, People Speak Up, Citrus Arts, The Other Room, Uproar Ensemble, Adverse Camber a Hijinx.

Proffiliau staff eraill