Geoffrey Moses
Athro y Llais, Tiwtor Opera
Dechreuodd Steve ar ei yrfa tra’n astudio yn y Trinity College of Music, ac ers hynny bu’n gweithio’n rheolaidd ar y sîn jazz ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Mae wedi recordio saith CD o dan ei enw ei hun, gan dderbyn clod y beirniaid. Maen nhw’n cynnwys llawer o gyfansoddiadau a threfniannau gwreiddiol, gan gynnwys Buddy Bolden Blew It, Our Delight, October Arrival, Stablemates, Out of Touch a Destination Unknown. Mae Steve hefyd, ar y cyd â John O’Neil, wedi ysgrifennu llyfr tiwtor Trymped Jazz sydd â chanmoliaeth uchel iddo, The Jazz Method for Trumpet a gyhoeddwyd gan Schott & Co.
Ym mis Chwefror 2019, cynhaliwyd perfformiad cyntaf erioed o Concerto for Jazz Trumpet and Orchestra o waith Steve, gan Surrey Mozart Players yn yr Electric Theatre yn Guildford.
Ym mis Ebrill 2022, recordiodd Steve Concerto For Trumpet o waith Daryl Runswick gyda Cherddorfa BBC Now.
Y mae hefyd yn athro Trymped Jazz yn y Trinity College of Music yn Llundain, arbenigwr Trymped Jazz gwadd yn y Royal Northern College of Music, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Purcell School. Mae Steve hefyd yn addysgu ar lawer o gyrsiau jazz haf ac mae wedi arwain amryw ddosbarthiadau meistr a gweithdai trymped yn amrywio mewn maint o grwpiau bach i fandiau mawr ledled y DU, Sbaen, y Ffindir, Latfia, yr Almaen, Periw, UDA, Rwsia, De Affrica a Chiwba.
Yn 2004, dyfarnwyd ARAM er anrhydedd i Steve gan yr Academi Gerdd Frenhinol.
Yn ystod y cyfnod clo, bu Steve yn cydweithio â’r cerddor/cynhyrchydd Paul Hazel ar brosiect yn ailddychmygu cerddoriaeth gan y cyfansoddwr Sun Ra.