Karen Thomas
Darlithydd Gwisgoedd
Rôl y swydd: Tiwtor Dawn Gerddorol a Byrfyfyrio Allweddellau
Adran: Piano
Anrhydeddau: BMus, MA, LRSM
Ym Mhrifysgol Caerdydd enillodd Alison y treialon concerto a gwobr John Thomas am astudiaeth ôl-raddedig, ac aeth ymlaen i berfformio Pierrot Lunaire yn Fringe Caeredin gyda’r Millennium Ensemble. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae recordiad o L'Enfant et les Sortilèges gan Ravel ar gyfer animeiddiad teledu gydag Opera Mint.
Yn dilyn hynny fe’i gwahoddwyd i addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gan arbenigo mewn harmoni a hyfforddiant y glust. Mae gan Alison ddiddordeb arbennig yn natblygiad coreograffi allweddellau sy'n osgoi anafiadau tra'n cyflymu'r broses ddysgu. Mae'n brofiadol iawn mewn addysgu pianyddion dall a myfyrwyr â dyslecsia a dyspracsia, gan ddefnyddio dulliau ymarfer a datrys problemau anghonfensiynol.
Mae disgyblion Alison wedi derbyn nifer o wobrau a rhagoriaethau mewn arholiadau graddedig a diploma. Enillodd nifer o fyfyrwyr y clod uchaf mewn cystadlaethau piano cenedlaethol gan gynnwys buddugoliaeth lwyr ddigynsail gan ddisgybl 9 oed yng Nghystadleuaeth Piano Genedlaethol EPTA. Mae pob un o'i myfyrwyr a ddymunai astudio cerddoriaeth yn Rhydychen neu ym mhrif gonservatoires y DU wedi cael cynnig lle, a hynny’n aml gydag ysgoloriaeth.
Mae Alison yn ddyledus iawn i gydweithrediad tair blynedd gyda'r Dr. Michael Schreider, addysgwr uchel ei barch o Rwsia, a hyfforddodd yn Conservatoires Moscow a Saint Petersburg. Mae galw mawr amdani fel tiwtor, gan hyfforddi athrawon yn breifat a chynnal seminarau ar gyfer Ysgol Gerdd Caerdydd, EPTA a dull Suzuki. Yn CBCDC mae ei rôl yn cynnwys 'Cymorthfeydd Ymarfer', gan ddefnyddio technegau datrys problemau uwch. Mae Alison yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn Piano Professional EPTA, ac mae ganddi lyfr ar y gweill sy'n amlinellu ei hagwedd unigryw at hyfforddiant allweddellau.