Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Jacob Shaw

Rôl y swydd: Llywydd gwadd rhyngwladol y Soddgrwth

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad Byr

Jacob yn rhoi darlithoedd a sgyrsiau rhyngwladol yn rheolaidd ar entrepreneuriaeth mewn cerddoriaeth glasurol, rheoli prosiectau a datblygu busnes yn y byd cerddoriaeth. Yn 2022 cafodd ei enwebu ar gyfer y wobr SydkystDanmarks Ildsjæl, sef gwobr “enaid y tân” Arfordir Deheuol Denmarc ac ef oedd enillydd un o wobrau mwyaf mawreddog Denmarc am ei wasanaethau i gerddoriaeth. Yn 2022, rhoddwyd Shaw ar restr Talent-100 o'r bobl fusnes orau yn Nenmarc, gan atodiad ariannol papur newydd cenedlaethol Berlingske, am ei wasanaethau fel entrepreneur diwylliannol.

Yn 2016 aeth Jacob ati i greu sefydliad i helpu cerddorion ifanc – Ysgol Soddgrythau Sgandinafia (SCS) – sy'n defnyddio dulliau anghonfensiynol o addysg, gan gynnwys cyngherddau allgymorth ac ymdrechu i fod yn hunangynhaliol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Jacob wedi cyfuno ei sgiliau ac wedi creu asiantaeth ymgynghori arbenigol, SCS Consultancy, sy’n gweithio’n rheolaidd i arweinwyr diwydiant megis Deutsche Grammophon, Decca, Warner Classics a Universal Music – yn ogystal â gweithio ar brosiectau arbennig ym myd busnes i gleientiaid sy’n cynnwys Ernst & Young a McKinsey & Company. Ym mis Ebrill 2022, camodd Jacob Shaw i rôl Cyfarwyddwr Diwylliant yn Stevns Klint, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, am flwyddyn.

Goruchwyliodd y broses gyfan o ddatblygu cynllun diwylliannol, artistig a chynllunio digwyddiadau, yn y ganolfan o safon fyd-eang a agorwyd gan Frenhines Denmarc ym mis Hydref 2022.

Proffiliau staff eraill