Simon Reeves
Pennaeth Dysgu ac Addysgu
Yn wreiddiol o Abertawe, hyfforddodd Alice fel actor yn y Royal Conservatoire of Scotland. Gweithiodd yn broffesiynol ym maes theatr, teledu a radio am dros ddegawd cyn hyfforddi ar y cwrs adnabyddus MA mewn Astudiaethau Llais yn y Royal Central School of Speech and Drama, gan raddio gyda Rhagoriaeth.
Mae gan Alice angerdd am rymuso myfyrwyr a’u gwaith actio drwy ymarfer llais. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn ymwneud ag addysgu o safbwynt Ffeministaidd Croestoriadol i ganiatáu mwy o fynediad a chynhwysiant yn y stiwdio llais.
Cyn ymuno â CBCDC, bu Alice yn gweithio’n helaeth fel hyfforddwr Llais, Lleferydd, Testun a Thafodiaith yn llawer o sefydliadau hyfforddiant actio blaenllaw y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Royal Conservatoire of Scotland, Royal Central School of Speech and Drama, Rose Bruford College a’r Emil Dale Academy. Gweithiodd Alice fel hyfforddwr cynhyrchiad a hyfforddwr llais gydag actorion proffesiynol. Mae’n diwtor cwrs rheolaidd gyda Chwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg ac yn flaenorol bu’n fentor a hwylusydd gweithdai i Open Door.