Alex Jenkins
Hyfforddwr Lleisiol
Rôl y swydd: Tiwtor Ffliwt Baróc
Adran: Chwythbrennau
Mae Katy Bircher wedi'i sefydlu fel arbenigwr ar ffliwtiau cynnar ac yn sgil hynny mae wedi gweithio gyda'r rhan fwyaf o grwpiau cerddoriaeth gynnar y DU mewn repertoire yn amrywio o Dowland i Wagner.
Fel unawdydd mae wedi perfformio mewn cyngherddau ledled Ewrop, yr Unol Daleithiau a'r Dwyrain Pell a rhoddodd y perfformiad cyntaf a'r recordiad cyntaf o Il Gran Mogul, concerto gan Vivaldi sydd newydd ei ddarganfod.
Fel Prif Ffliwtydd y Gabrieli Consort and Players, Concerto Copenhagen a'r Dunedin Consort, mae Katy wedi cyfrannu at lawer o recordiadau arobryn a phrosiectau sy’n torri ffiniau.
Mae Katy yn dysgu ffliwt baróc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'r Ganolfan ar gyfer Perfformio ac Ymchwil Cerddoriaeth Gynnar ym Mhrifysgol Birmingham, ac mae wedi cynnal dosbarthiadau meistr yn y DU a thramor.