Despina Homatidou
Tiwtor Perfformiad Allweddellau Hanesyddol
Rôl y swydd: Arweinydd Cwrs Sylfaen Adeiladu Golygfeydd
Adran: Cynllunio
Astudiodd Mike yng Ngholeg Celf Howard Gardens yng Nghaerdydd, gan arbenigo mewn Cerflunwaith BA (Anrh) o dan arweiniad Mona Hatoum, artist a enillodd Wobr Turner. Ers hynny, mae ganddo ddull creadigol o ymwneud â’i waith ac mae’n gweld gwerth mewn archwilio fel man cychwyn i ddatrys problem.
Ar ôl gadael y coleg, sefydlodd fusnes, Space Cat Creations, a dderbyniodd Fedal Arian gan y Tywysog Charles yn Sioe Fasnach Ymddiriedolaeth Busnes Ieuenctid y Tywysog ac wedi hynny gwerthwyd eu gwaith drwy Liberty’s yn Llundain.
Treuliodd Mike sawl blwyddyn yn dylunio ac adeiladu ceginau ac ati gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hadfer a bu’n Dechnegydd Arddangosiadau yn Neuadd Dewi Sant.
Ers hynny, mae Mike wedi magu dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio ar setiau opera a theatr, gan gynnwys i Opera Cenedlaethol Cymru, LAMDA a CBCDC.
Yn ei ddyddiau cynnar fel Saer Cynhyrchu yn Opera Cenedlaethol Cymru, roedd Mike yn mwynhau’r her o ailwampio a thrwsio setiau opera a adeiladwyd yn wreiddiol yn y 70au, gan fod hynny’n galw am ddealltwriaeth drylwyr o dechnegau gwaith coed traddodiadol. Mae Mike yn credu bod natur a rôl y crefftwr mor bwysig ag erioed, yn y modd y mae’n rhoi pwyslais ar fireinio prosesau er mwyn gwella sgiliau’n barhaus fel rhan o ddysgu gydol oes.
Fel Saer Cynhyrchu Opera Cenedlaethol Cymru, gweithiodd Mike ar adeiladu set Cosi Fan Tutte a ddyluniwyd gan Max Jones, cyn-fyfyriwr CBCDC, gan weithio gyda pheiriannydd strwythurol i adeiladu tŷ dau lawr ar olwynion. Yn sgil mwynhad Mike o’r broses gynhyrchu, cymhlethdod gwaith rheoli’r prosiect a chymaint o gydweithio oedd yn ofynnol, symudodd ymlaen i fod yn rheolwr cynhyrchu.
Tra’r oedd yn Rheolwr Cynhyrchu ar gyfer Adran Ieuenctid a Chymunedol Opera Cenedlaethol Cymru, hyfforddodd i fod yn hyfforddwr a mentor, gan symud tuag at weithio ym maes Addysg Uwch, yn gyntaf fel Uwch Diwtor Adeiladu yn LAMDA cyn cychwyn yn CBCDC.
Mae Mike yn aelod gweithredol o raglen Ymarfer Adferol CBCDC.
Mae Mike wedi cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth Cerflunio Eira yn America.
Roedd yn Rheolwr Cynhyrchu ar ddau o gynyrchiadau Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru – cynhyrchiad a enillodd wobr o Paul Bunyan ar Lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a chynhyrchiad arloesol o Kommilitonen! yng Nghanolfan y Celfyddydau MEMO yn y Barri.
Mike oedd y Rheolwr Cynhyrchu ar y fersiwn gyntaf i gael ei llwyfannu’n llawn o Gair ar Gnawd – a ffilmiwyd gan S4C yn Ffwrnes yn Llanelli.