Vivien Care
Pennaeth Theatr Gerddorol
Rôl y swydd: Tiwtor Clarinét
Adran: Chwythbrennau
Nicholas Carpenter yw’r Prif Glarinetydd yn y BBC Concert Orchestra.
Astudiodd Nicholas yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda’r Fonesig Thea King a John McCaw. Ar ôl gadael, ymunodd â’r Bournemouth Sinfonietta fel prif glarinetydd, gan barhau yn y rôl am ddeng mlynedd.
Ym 1995, gwahoddwyd Nicholas i ymuno â’r London Philharmonic Orchestra lle’r arhosodd am y deunaw mlynedd nesaf, yn chwarae’r Prif Glarinét, Clarinét Eb a’r Is-Brif Glarinét. Tra’r oedd yn y London Philharmonic Orchestra, ymddangosodd hefyd fel prif glarinetydd gwadd gyda bron i bob cerddorfa broffesiynol yn Lloegr.
Mae Cerddoriaeth Siambr hefyd wedi bod yn rhan greiddiol o’i yrfa, yn enwedig gydag aelodau o’r London Philharmonic ac Academy of St Martin-in-the-Fields. Ymddangosodd lawer tro yn Wigmore Hall ac mewn lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig a thramor, a’i recordiad o Bumawd Clarinét Mozart ar gyfer EMI oedd argymhelliad BBC Radio 3 fel ‘Recordiad Gorau’ yn Building a Library.
Mae galw mawr am waith Nicholas fel athro a hyfforddwr chwythbrennau a rhoddodd ddosbarthiadau meistr yn rheolaidd ledled y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae Nicholas Carpenter yn chwarae clarinetau Uebel a brwyn D’Addario.
Mae Nicholas bellach yn dilyn gyrfa amrywiol iawn fel clarinetydd llawrydd, athro clarinét, ymgynghorydd chwythbrennau ac arweinydd. Mae ei ymddangosiadau diweddar fel prif glarinetydd gwadd yn cynnwys gyda’r Royal Opera House, Royal Philharmonic Orchestra, Philharmonia, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Royal Scottish National Orchestra a’r Royal Northern Sinfonia. Y mae’n aml yn recordio yn y stiwdio, ac mae i’w glywed ar lawer o draciau sain cyfoes fel Fantastic Beasts and Where to Find Them a ffilm Avengers: Endgame.