Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

James Southall

Rôl y swydd: Cyfarwyddwr Cerddoriaeth ar gyfer Ysgol Opera David Seligman, Tiwtor Piano Cydweithredol a Hyfforddwr Llais, Tiwtor Opera

Adran: Opera

Anrhydeddau: MA (Cantab.) MMus, ARCO

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Arweinydd a phianydd yw James Southall, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cerdd Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Treuliodd bron i 15 mlynedd gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn arwain ystod eang o gynyrchiadau gan gynnwys Madama Butterfly, La Traviata, Carmen, Don Giovanni, The Magic Flute, Così fan tutte, Die Fledermaus a The Barber of Seville.

Arbenigedd

Yn ogystal â’i waith gyda WNO, mae James wedi arwain ar gyfer cwmnïau a cherddorfeydd megis English Touring Opera, Sinfonia Cymru, L’Orchestra Haydn di Bolzano e Trento, a Camerata Nordica. Mae hefyd wedi gweithio gyda Thŷ Opera Brenhinol Covent Garden, Teatro Real Madrid, a La Monnaie ym Mrwsel.

Fel pianydd, mae James wedi perfformio mewn lleoliadau sy’n cynnwys Neuadd Wigmore a Neuadd Cadogan. Mae wedi derbyn cydnabyddiaeth fel cyn-enillydd Gwobr y Cyfeilydd yng Ngwobrau Kathleen Ferrier a Chystadleuaeth Maggie Teyte. Mae wedi cydweithio ag artistiaid megis Syr Bryn Terfel, Elizabeth Watts, Ailish Tynan, Elizabeth Atherton a Jessica Robinson.

Astudiodd James yng Ngholeg y Frenhines, Caergrawnt, lle bu’n Ysgolor yr Organ, ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Mae’n cyfuno ei yrfa berfformio ag ymrwymiad i addysg a mentora cerddorion ifanc.


Proffiliau staff eraill