Izzy Jackson
Is-lywydd, Digwyddiadau a Chymdeithasau
Rôl y swydd: Pennaeth Perfformio Offerynnau Taro, Athro Sgiliau Ddysgu Offerynnau Taro, Gwaith Estyn Allan Offerynnau Taro, Tiwtor Tympani
Adran: Offerynnau taro
Anrhydeddau: BMus (Anrh)
Patrick King yw Pennaeth Perfformio Offerynnau Taro yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Patrick yn cyfuno’r rôl hon â gweithio’n llawrydd gyda’r holl brif gerddorfeydd yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â’i waith addysg ac allgymorth.
Yn ei rôl yn CBCDC, mae’r adran offeryn taro wedi tyfu i fod yn ganolfan ffyniannus o weithgarwch. Mae Patrick yn goruchwylio tîm gwych o diwtoriaid sy’n cwmpasu pob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth, yn hwyluso dosbarthiadau meistr rheolaidd gan weithwyr proffesiynol gwadd, ac yn darparu cyfleoedd cyson i’r myfyrwyr gydweithio oddi mewn i’r coleg a thrwy drefniadau allanol. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys ‘The Big Bash’, diwrnod offerynnau taro unigryw yn CBCDC wedi’i anelu at offerynwyr taro ifanc o ddechreuwyr i radd 8. Mae’r diwrnod hwn wedi cynnwys dosbarthiadau meistr gwadd a chyngherddau gan Colin Currie ac O Duo. Mae myfyrwyr CBCDC yn mwynhau cyfleoedd allgymorth rheolaidd, dan arweiniad Patrick.
Fel addysgwr, mae Patrick wedi tiwtora Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr ac wedi rhoi dosbarthiadau meistr ledled y DU, gan gynnwys yr RCM Day of Percussion. Ac yntau’r un mor angerddol am waith allgymorth, Patrick yw cyfarwyddwr artistig Children’s Musical Adventures, cwmni sy’n ymroi i gyflwyno cerddoriaeth i bobl ifanc. Mae Patrick yn llysgennad i Sefydliad Benedetti ac mae’n mwynhau cyflwyno llawenydd cerddoriaeth i gymaint o bobl â phosibl.
Astudiodd Patrick yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac wrth raddio derbyniodd Wobr y Cyfarwyddwr am gyfraniad cerddorol. Yn y Coleg Cerdd Brenhinol, roedd yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd, ac wedyn aeth ymlaen i ddatblygu gyrfa lawrydd lle’r oedd yn chwarae gyda’r rhan fwyaf o gerddorfeydd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Cyrhaeddodd Patrick y rownd derfynol yng Ngherddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2001, ac enillodd gystadleuaeth St Luke’s Academy, London Symphony Orchestra.
Yn flaenorol, Patrick oedd Prif Dympanydd Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2022.