Sebastian See-Schierenberg
Tiwtor Feiolin
Rôl y swydd: Tiwtor Soddgrwth Baróc
Adran: Llinynnau
Mae Jonathan Rees wedi perfformio ledled y byd fel soddgrythor a chwaraewr gamba gydag ensemblau pherfformio hanesyddol a siambr blaenllaw’r DU. Mae wedi perfformio fel continwo / prif soddgrythor ac unawdydd gamba gyda’r Academy of Ancient Music, Orchestra of the Age of Enlightenment, Arcangelo, Florilegium, Dunedin Consort, The Sixteen, ENO, Britten Sinfonia, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Manchester Camerata, La Nuova Musica a Solomon’s Knot.
Mae’n perfformio yn y DU a thramor gyda’r consort feiolau Fretwork. Mae wedi perfformio fel cerddor siambr ac unawdydd yn Neuadd Wigmore, Gŵyl Ryngwladol Caeredin a Gŵyl Baróc Llundain, ymhlith eraill.
Yn Aelod Cyswllt yr Academi Gerdd Frenhinol, mae Jonathan wedi addysgu myfyrwyr soddgrwth hanesyddol ar lefel gradd ac ôl-radd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, wedi cynnal dosbarthiadau perfformio hanesyddol yn yr Academi Gerdd Frenhinol, y Guildhall School of Music and Drama, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Birmingham, Prifysgol Caergrawnt a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Mae wedi dyfeisio ac arwain gweithdai cerddoriaeth a chyngherddau plant ar gyfer Orchestra of the Age of Enlightenment, Gŵyl Cerddoriaeth Gynnar Brighton ac eraill.