Hazel Jewkes
Darlithydd mewn Gwisg
Mae Lenny Sayers yn Brif Clarinetydd Bas gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ers 2011 ac mae’n aelod o staff addysgu Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2012. Cyn symud i Gaerdydd, roedd Lenny yn gerddor ac athro llawrydd yn seiliedig ym Manceinion ac mae wedi perfformio gyda llawer o gerddorfeydd proffesiynol mwyaf blaenllaw’r DU. Yn 2001 cyrhaeddodd rownd derfynol Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC Radio 2, y flwyddyn olaf y cynhaliwyd y gystadleuaeth.
Mae Lenny yn gerddor amryddawn iawn – yn ogystal â bod yn berfformiwr medrus mae’n gyfansoddwr a threfnydd cyhoeddedig ac yn arweinydd gweithdai, cyflwynydd ac animateur profiadol. Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Lenny nid yn unig yn rhoi gwersi unigol ar y clarinét a’r clarinét bas, ond mae hefyd yn addysgu ar fodiwlau ‘Sgiliau Allgymorth’, ‘Sgiliau Addysgu’ a ‘Harmoniemusik: Trefnu ar gyfer Ensemble Chwyth' i’r adran chwythbrennau. Fel animateur mae Lenny wedi creu a chyflwyno’r Cyngerdd Teuluol ar gyfer Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth ers ei sefydlu ac mae hefyd wedi cyflwyno cyngherddau ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Corbridge.
Perfformiwyd ei gyfansoddiadau ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Scotland ac mae ei weithiau ar gyfer cerddorfa gyda chyfranogiad y gynulleidfa yn ymddangos yn rheolaidd yng Nghyngherddau i’r Teulu gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bu ei drefniannau niferus o gerddoriaeth klezmer yn boblogaidd iawn gyda chwaraewyr clarinét ledled y byd, gan gynnwys myfyrwyr CBCDC!