Simon Phillippo
Pennaeth Allweddellau
Jonathan Munby yw un o gyfarwyddwyr theatr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.
Derbyniodd glod cynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Y mae wedi’i enwebu ac wedi ennill nifer o’r prif wobrau, gan gynnwys UK Theatre Awards, The Helen Hayes Award yn yr Unol Daleithiau am y Cyfarwyddwr Mwyaf Eithriadol, ac yn fwyaf diweddar, Gwobr Olivier am yr Adfywiad Gorau. Gyda gwaith helaeth yn yr Unol Daleithiau, Tsieina, Japan a De Affrica, y mae hefyd ganddo statws cryf yn rhyngwladol.
Mae Jonathan wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau blaenllaw yn y Deyrnas Unedig, yn y sectorau masnachol ac â chymhorthdal, fel y Royal Shakespeare Company (Wendy & Peter Pan), Donmar Warehouse (Life Is a Dream, gyda Dominic West), Young Vic, Shakespeare’s Globe (Merchant of Venice, gyda Jonathan Pryce yn serennu), ac yn helaeth i lawer o’r prif theatrau rhanbarthol, gan gynnwys Leeds Playhouse, Sheffield Crucible a’r Bristol Old Vic. Yn y blynyddoedd diwethaf, cafodd lwyddiant mawr gyda gwaith masnachol yn y West End (Frozen, gyda Suranne Jones, Jason Watkins a Nina Sosanya yn serennu) ac mae wedi dechrau datblygu ei ffilm nodwedd gyntaf.
Mae gwaith Jonathan wedi cwmpasu llawer o genres gwahanol, o’r clasuron i weithiau newydd, ar draws amryw ddisgyblaethau a chyda llawer o ddramodwyr ac ymarferwyr pennaf y wlad, gan gynnwys Caryl Churchill, Bryony Lavery, Dennis Kelly ac Ella Hickson. Yn ogystal â’i yrfa fel cyfarwyddwr, gweithiodd yn RADA, LAMDA, East 15 a Guildhall. Mae addysgu, mentora a chael y cyfle i weithio gyda thalent ifanc a rhai sy’n dod i’r amlwg, bob amser wedi bod yn rhan bwysig o fywyd a gwaith Jonathan.
Yn ei yrfa, mae wedi canolbwyntio ar archwilio sut gall gwybodaeth fanwl am gyd-destun gwreiddiol dramâu, o Oes Elizabeth hyd heddiw, gynnig cyfle i gyfarwyddwyr ac actorion herio cynulleidfaoedd cyfoes. Yn fwyaf nodedig, o’r broses hanesyddolaidd hon, deilliodd cynhyrchiad a ddenodd glod y beirniaid o King Lear, gyda Syr Ian McKellen yn serennu (y ddrama a werthodd gyflymaf erioed yn y West End, ar wahân i Harry Potter), lle bu Jonathan yn ail-weithio’r sgript, yn seiliedig ar ei astudiaeth fanwl o argraffiadau Quarto a First Folio. Mae’r cyhoeddiad o’i fersiynau ef o’r ddrama gan Oberon Books yn dangos cydnabyddiaeth o’i ddyfeisgarwch a’i ddealltwriaeth.
Ar gyfer ei adfywiad o’r sioe gerdd jazz eiconig o Dde Affrica, King Kong: Legend of a Boxer (1959), a enillodd wobrau Cynhyrchiad Gorau a Chyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Theatr De Affrica, cydlynodd Jonathan brosiect ar raddfa fawr i ailddychmygu’r sioe tra’n parchu ei statws chwedlonol. Fel rhan o hyn, cynhaliwyd cyfweliadau helaeth, cyfansoddwyd caneuon newydd, ac ysgrifennwyd llyfr newydd. Roedd hyn oll yn deillio o ymdrochi yn y materion sy’n wynebu De Affrica heddiw ynghyd â dealltwriaeth o gyfnod yr apartheid pan y crëwyd y darn yn wreiddiol.
Mae ei waith wedi cwmpasu llawer o genres gwahanol, ar draws disgyblaethau amrywiol, mewn nifer o ieithoedd a chyda llawer o brif ddramodwyr ac ymarferwyr y Deyrnas Unedig.