Dominic Ingham
Tiwtor
Mae Kathryn yn diwtor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 14 mlynedd, gan arbenigo mewn techneg ar y delyn. Mae myfyrwyr blaenorol a phresennol wedi llwyddo mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Ar ôl graddio o’r Royal Northern College of Music, astudiodd Kathryn gwrs Meistr mewn Perfformio’r Delyn a Llenyddiaeth yn Eastman School of Music, Rochester, Efrog Newydd. Cwblhaodd ei hastudiaethau ar Ysgoloriaeth Llysgenhadol Rotari Rhyngwladol. Ar ôl tymor fel Prif Delynor Gŵyl Opera Heidelberg, gweithiodd Kathryn fel telynor cerddorfaol llawrydd yn nhalaith Efrog Newydd a bu’n addysgu fel uwch hyfforddwr y delyn yn yr Interlochen Arts Academy yn Michigan.
Mae Kathryn yn addysgu stiwdio helaeth o fyfyrwyr preifat a chaiff ei galw’n aml i roi dosbarthiadau meistr a beirniadu cystadlaethau.
Mae’n frwdfrydig iawn ynghylch archwilio potensial amrywiol y delyn, gan roi sylw i’w gwreiddiau traddodiadol/clasurol ond gan godi golygon i’w phosibiliadau cyfoes.
Mae Kathryn wedi mwynhau gyrfa berfformio amrywiol, yn cyflwyno datganiadau yng Nghanada, yr Unol Daleithiau, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Qatar, ac yn gweithio’n llawrydd mewn cerddorfeydd yma yng Nghymru, yn fwyaf nodedig gyda Sinfonia Cymru.