Fred Harvey Love
Technegydd Adeiladu Golygfaol
Rôl y swydd: Pennaeth Gitâr
Adran: Gitâr
Anrhydeddau: GRSM (Anrh), DipRCM, ARCM (PG).
Mae Helen Sanderson yn crynhoi bywyd fel gitarydd yn yr 21ain ganrif; mae ei hamrywiaeth fel perfformiwr, addysgwr, trefnydd, cyfansoddwr ac entrepreneur creadigol yn cael ei hadlewyrchu yn sbectrwm eang astudiaethau gitâr yn CBCDC.
Cerddoriaeth Siambr yw canolbwynt gyrfa berfformio ryngwladol Helen. Mae’r uchafbwyntiau perfformio yn cynnwys Southbank Centre, Kings Place a Sefydliad Gitâr America, a recordiadau CD gyda VIDA Guitar Quartet, James Bowman a Mark Wilde. Yn ogystal â’i chariad at berfformio, drwy ei hysgogiad i greu cyfleoedd i chwaraewyr gitâr ifanc, sefydlodd yr elusen addysg cerddoriaeth, Guitar Circus, cartref yr Ensemble Gitâr Ieuenctid Cenedlaethol a Gŵyl Gitâr Ieuenctid y Byd lle mae’n Gyfarwyddwr Artistig.
Drwy’r rolau hyn, mae wedi datblygu profiad amhrisiadwy ym maes rheoli’r celfyddydau, ac maent wedi sbarduno diddordeb Helen mewn ehangu’r repertoire ar gyfer yr offeryn, yn enwedig ar gyfer ensemble gitâr. Caiff gwaith Helen ei ddewis yn aml ar gyfer byrddau arholi ABRSM, Coleg Cerdd y Drindod a Choleg Cerdd Llundain ac mae datblygu’r grefft hanfodol hon o drefnu a chyfansoddi yn cael lle amlwg yn rhaglen CBCDC. Caiff ei gwahodd yn aml i reithgorau cystadlaethau gan gynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, Sefydliad Gitâr America, Cystadleuaeth Gitâr Ryngwladol Llundain, Cystadleuaeth Gitâr Koblenz, ac yn fwyaf cofiadwy, cyfres Guitar Star a ddarlledwyd gan Sky Arts.
Ffurfiodd Helen ddeuawd llais a gitâr gyda Mark Wilde o’r Academi Gerdd Frenhinol a deuawd gitâr gyda Zoran Dukić o’r Conservatoire Brenhinol, Yr Hag, ac roedd yn aelod a sefydlodd y Vida Guitar Quartet. Teithiodd yn helaeth drwy gyfnod y cyfnod asesu, gan roi perfformiadau nodedig ledled yr Unol Daleithiau yn 2014, ac yn Ewrop yn 2019, o Ŵyl Gitâr Long Island (UDA) i Ŵyl Gitâr Kutná Hora (Y Weriniaeth Tsiec).
Roedd Helen yn ymgynghorydd i Fwrdd Arholi Coleg Cerdd y Drindod yn 2019, ac i Fwrdd Arholi Coleg Cerdd Llundain yn 2020. Derbyniodd Gymrodoriaeth Winston Churchill yn 2015 ac roedd yn feirniad yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2015, 2018, a 2019, yn ogystal ag ar gyfres Guitar Star ar Sky Arts yn 2015.
Bu Helen yn feirniad mewn cystadlaethau gitâr yn y Birmingham Conservatoire (2014), a’r Coleg Cerdd Brenhinol (2015), ynghyd â Chystadleuaeth Gitâr Ryngwladol Koblenz (2016), Cystadleuaeth Gitâr Ryngwladol Llundain (2016), Cystadleuaeth Gitâr Ida Presti yn Croatia (2018, 2020), a Sefydliad Gitâr America (2017, 2019).
Mae angerdd Helen at ddysgu wedi tyfu ers dod yn Gymrawd Winston Churchill. Mae ei dadansoddiad o raglenni llwyddiannus yn yr Unol Daleithiau lle caiff y gitâr ei haddysgu fel dosbarth cyfan, wedi caniatáu iddi osod sylfeini ar gyfer cwricwlwm gitâr yn y Deyrnas Unedig ar sail ensemble. Mae’n archwilio ffyrdd y gallai ei hastudiaethau o gwricwlwm gitâr chwarae rôl mewn dull traws-ddisgyblaethol integredig oddi mewn i’r Celfyddydau Mynegiannol ehangach, sy’n adlewyrchu’r cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae Helen ar hyn o bryd yn Gyd-Ymchwiliwr ar brosiect i ddatblygu gitâr hygyrch sydd â’r nod o ehangu mynediad i’r offeryn i bobl sydd ag anableddau corfforol ac anghenion addysgol arbennig.
Dolen i adroddiad Cymrodoriaeth Churchill: